At a Glance
- Tasks: Lead and inspire teams to provide top-notch support for those facing housing challenges.
- Company: Join Grŵp Cynefin, a community-focused housing association making a real difference.
- Benefits: Competitive salary, generous holiday allowance, and personal development opportunities.
- Other info: Dynamic role with excellent career growth and a supportive team environment.
- Why this job: Make a positive impact on lives and communities across North Wales.
- Qualifications: Passion for leadership and experience in service development.
The predicted salary is between 49500 - 60500 £ per year.
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai sy'n adeiladu, creu a chynnal cartrefi gan gefnogi tenantiaid a chwsmeriaid yn eu cymunedau. Rydyn ni'n berchen ar dros 5,000 o gartrefi gyda dros 10,000 o denantiaid, ac yn gweithredu ar draws chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys. Mae'r grŵp yn cynnwys dau is-gwmni, Canllaw a Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys gwasanaethau cymunedol ac atal digartrefedd. Mae cymuned wrth wraidd popeth â wnawn. Rydyn ni'n gweithion galed i ddarparu tai diogel, o safon, a gwasanaethau rhagorol. Rydyn ni'n cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy a hyrwyddo'r iaith a diwylliant Cymraeg gyda balchder.
Gyda dros 300 o aelodau staff, rydyn ni'n rhoi iechyd a lles ein pobl yn flaenllaw, gan adeiladu Lle i Berthyn i bawb. Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol a gofalgar i ymuno â'n tîm. Mae hwn yn cyfle cyffrous i'r person cywir a rhywun sy'n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Fel Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd dros dro, byddwch yn arwain ac yn ysbrydoli timau cefnogaeth arbenigol i ddarparu gwasanaethau o'r safon uchaf i bobl sy'n wynebu heriau tai a digartrefedd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwasanaethau arloesol sy'n helpu unigolion i gynnal eu tenantiaethau, cryfhau eu llesiant, a chyrraedd eu potensial.
Yn y rôl hon byddwch yn:
- Arwain a datblygu timau perfformiad uchel sy'n darparu cefnogaeth o ansawdd rhagorol i bobl ag anghenion isel, canolig ac uchel.
- Sicrhau bod ein gwasanaethau atal digartrefedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cynnig gwerth am arian, ac yn ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ddull Amgylchedd sy'n Wybodus o Safbwynt Seicolegol (PIE).
- Sicrhau cydymffurfiaeth fel Darparwr Cefnogaeth Achredig, gan reoli gwasanaethau'n effeithiol ac o fewn cyllideb.
- Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Tai a Chefnogaeth i arwain ar ddatblygiad, twf ac arloesedd ym maes atal digartrefedd.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd cryf gyda chomisiynwyr, awdurdodau lleol a phartneriaid statudol a gwirfoddol.
- Sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni gofynion Grant Cymorth Tai, cytundebau awdurdodau lleol, a'r ddeddfwriaeth a'r safonau perthnasol ym maes tai, digartrefedd, trais domestig a chefnogaeth.
Os ydych yn arweinydd strategol sy'n angerddol am greu effaith gadarnhaol a datblygu gwasanaethau sy'n newid bywydau, dyma gyfle gwych i ymuno â ni a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni. Os oes gennych yr ysfa a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw'r swydd i chi.
Pecyn Math o gytundeb: Dros dro
Cyflog: £44,997 y flwyddyn pro rata
Lleoliad: Penygroes / gweithio o gartref
Oriau Gweithio: 35 awr yr wythnos
Gwyliau: 36 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata y flwyddyn (25 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw) gan gynyddu i 41 diwrnod pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (30 diwrnod craidd, 3 diwrnod yn lle'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a'r 8 gŵyl banc statudol ymlaen llaw)
Teithio: Hanfodol
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Datblygiad Personol: Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Rheolwr Gwasanaethau Atal Digartrefedd / Homelessness Prevention Services Manager in Penygroes employer: CIH International Housing Group
Transform Housing & Support is an exceptional employer dedicated to making a meaningful impact in the lives of vulnerable individuals. Located in Reigate, our supportive work culture fosters personal and professional growth, offering tailored training programmes and flexible working arrangements to help you thrive. With a strong focus on employee wellbeing and a commitment to diversity, you'll find a rewarding career where your contributions truly matter.
Contact Details:
CIH International Housing Group Recruitment Team