Athro / Athrawes - Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch
Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.
Dymuna’r Corff Llywodraethu benodi athro/athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Ionawr tan mis Gorffennaf.
Bydd y rôl yn cynnwys addysgu yn Nosbarth Derbyn Ysgol Penrhyn-coch ac mewn un dosbarth arall ar draws y ffederasiwn, gan gefnogi trefniadau sy’n sicrhau amser arweinyddiaeth ar gyfer aelodau’r uwch-dîm rheoli.
Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:
- - Meddu ar allu profedig i gyflwyno addysgu a dysgu o safon uchel ar draws yr ystod gynradd.
- - Dangos disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad a lles disgyblion.
- - Yn ymrwymedig i gydweithio fel rhan o dîm cryf ar draws y ddau safle ysgol.
- - Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- - Ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol.
- - Cyfrannu at y cwricwlwm ehangach a darpariaeth allgyrsiol y ffederasiwn.
- - Cymryd rhan weithredol ym mywyd y ffederasiwn a’i bartneriaethau cymunedol.
Byddai gallu chwarae’r piano neu cyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.
Rydym yn cynnig:
- - Disgyblion brwdfrydig ac ymddwyn yn dda.
- - Cyfleoedd dysgu proffesiynol eang i gefnogi datblygiad gyrfa.
- - Ymrwymiad cryf i les staff a chydweithio.
Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person [https://hreforms.ceredigion.gov.uk/ufs/jdps/REQ106994_v2.pdf]
Cysylltwch â ni
Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn,maerhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwchna fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Athro / Athrawes - Ysgol Penllwyn ac Ysgol Penrhyn-coch employer: Ceredigion County Council
Penparc Community School is an exceptional employer that fosters a collaborative and inclusive work culture, where bilingualism in Welsh and English is celebrated. With a strong commitment to professional development, staff are encouraged to grow their skills and leadership capabilities, ensuring a rewarding career path. Located in the picturesque town of Cardigan, employees enjoy a supportive community environment that values educational excellence and innovation.