Is-Olygydd a Thechnegydd Ôl-Gynhyrchu | Junior Editor & Post Production Technician in Carmarthen

Is-Olygydd a Thechnegydd Ôl-Gynhyrchu | Junior Editor & Post Production Technician in Carmarthen

Carmarthen Full-Time On-site
C

Mae Carlam Cyf yn chwilio am Is-olygydd a Thechnegydd ôl-gynhyrchu. Rydym yn chwilio am berson egnïol, chreadigol a thechnolegol i ymuno â’r tîm ôl-gynhyrchu yn ein swyddfa yng Nghaerfyrddin. Fel Is-olygydd a thechnegydd ôl-gynhyrchydd, byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r tîm technoleg trwy baratoi prosiectau, rheoli deunydd a data, golygu prosiectau aml blatfform atodol ac yn cefnogi’r tîm golygu ehangach ar brosiectau amrywiol. Rydym yn chwilio am rywun sy’n hapus i weithio i fel aelod o dîm, ac sydd hefyd yn awyddus ac yn frwdfrydig i ddatblygu eu sgiliau gydag Avid Media Composer, Davinci Resolve ac yr Adobe Creative Cloud Suite.

Sgiliau Hanfodol:

  • Profiad o weithio ar Avid Media Composer a Davinci Resolve
  • Gweithio o frîff ac o fewn amserlen dynn.
  • Profiad o fewnforio, cysoni sain a fideo, trefnu ffeiliau prosiect, a gwneud copïau wrth gefn (backup) o ddeunydd fideo yn ddiogel.
  • Dealltwriaeth Technoleg Gwybodaeth dda e.e.. cyfrifiaduron, rhwydweithio a thrin data.
  • Dealltwriaeth o wahanol codecs fideo, cyfraddau ffrâm (frame rates), cymarebau agwedd (aspect ratios), a gosodiadau allforio ar gyfer gwahanol lwyfannau (e.g., cyfryngau cymdeithasol yn erbyn darlledu).
  • Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddefnyddiol i’r swydd hon.
  • Dealltwriaeth gychwynnol o adeiladu naratif.
  • Sgiliau cymysgu sain sylfaenol, megis cael gwared ar sŵn cefndir neu gydbwyso lefelau deialog gan ddefnyddio offer fel Adobe Audition.
  • Llygad sylfaenol ar gyfer cydbwyso amlygiad (exposure) a pharu lliwiau ar draws gwahanol onglau camera.
  • Y gallu i ddeall cysyniadau newydd yn rhwydd.
  • Agwedd brwdfrydig a hyblyg.
  • Y gallu i weithio’n cyflym, dan bwysau ac i derfynau amser caeth.

Cyfnod: 6 mis (I gychwyn)

Lleoliad Y Swydd: Carlam Ltd, Canolfan Yr Egin, Heol Y Coleg, Caerfyrddin. SA31 3EQ

Cyflog: I'w drafod (Yn ddibynnol ar brofiad)

Dyddiad Cau: Dydd Llun, 12.10.26

#J-18808-Ljbffr

C

Contact Details:

Carlam Ltd Recruitment Team