Anogydd Cyflogadwyedd– Cymraeg yn Hanfodol (Dyddiad Cau 18/10/2026) in Wrexham

Anogydd Cyflogadwyedd– Cymraeg yn Hanfodol (Dyddiad Cau 18/10/2026) in Wrexham

Wrexham Full-Time On-site
Careers Wales

Anogydd Cyflogadwyedd– Cymraeg yn Hanfodol

Ydych chi'n barod i ddefnyddio'ch sgiliau i ysbrydoli a chefnogi pobl wrth iddyn nhw gymryd eu camau nesaf tuag at addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth? Ydych chi'n mwynhau helpu cwsmeriaid i fagu hyder a chymryd camau ymarferol i gyflawni eu nodau? Mae Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn chwilio am Anogydd Cyflogadwyedd ymuno â’n tîm – unigolyn a fydd yn ymrwymedig i gefnogi pobl i gyrraedd eu nodau gyrfa. Rydyn ni’n darparu cyfarwyddyd gyrfa hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed ledled Cymru, gan gynnwys trwy raglen Cymru’n Gweithio.

Gwybodaeth allweddol

· Lleoliad: Canolfan Gyrfaoedd Wrecsam. O bryd i'w gilydd efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio yng Nghanolfan Gyrfaoedd Queensferry yn Sir y Fflint.

· Cyflog: £26,276–£28,256, yn dechrau ar £26,276.

· Oriau: Amser llawn, 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener.

· Sgiliau Cymraeg: Hanfodol. Rhaid i ymgeiswyr fod â sgiliau Cymraeg lefel ganolradd o leiaf.

· Dyddiad cau: Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn 18/10/2026.

· Proses ddethol: Bydd asesiadau a chyfweliadau yn cael eu cynnal yn ddigidol trwy Microsoft Teams. Cynhelir asesiadau ar 02/11/2026 a chyfweliadau ar 03/11/2026.

Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig

Rydyn ni’n cynnig pecyn buddion deniadol, gan gynnwys amser gweithio hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Ynglŷn â'r rôl

Yn y rôl hon, byddwch yn gweithio gyda grŵp cleientiaid amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc sy'n chwilio am gyfleoedd newydd neu sy'n gadael addysg, rhieni, oedolion sy'n ddi-waith ac sy'n chwilio am gymorth i fynd yn ôl i’r gwaith, a phobl mewn cyflogaeth sy'n ystyried newid gyrfa. Rydyn ni’n chwilio am gyfathrebwr hyblyg ac effeithiol sy'n hyderus yn cefnogi ein sylfaen cwsmeriaid amrywiol yn y cnawd a thrwy sianeli digidol.

Fel Anogwr Cyflogadwyedd, byddwch yn:

· cefnogi ac ysbrydoli cleientiaid i nodi nodau gyrfa cadarnhaol a gweithio tuag atyn nhw;

· darparu gwybodaeth a chyngor clir i helpu cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;

· darparu cymorth cyflogadwyedd, gan gynnwys help gyda CV, chwilio am swyddi a cheisiadau;

· helpu cleientiaid i symud tuag at ganlyniadau cadarnhaol parhaus, gan gynnwys addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Dylech fod ag addysg i safon Lefel 3 neu gyfwerth, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig fel cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad ydych chi eisoes yn meddu ar y Diploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfaoedd, byddwn yn darparu'r hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd eu hangen i gyflawni'r cymhwyster gwerthfawr hwn.

Sgiliau Cymraeg – lefel ganolradd

Byddwch yn gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a gwaith, cynnal sgyrsiau, ac esbonio syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi'u strwythuro'n dda, er mwyn rhannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.

Gofynion ychwanegol

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ein hymrwymiad i gynhwysiant

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w wneud!

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl oherwydd y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio – ac nid oherwydd eu hamhariad neu wahaniaeth nhw.

Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Swydd-Ddisgrifiadau/Anogydd Cyflogadwyedd

Ewch i wefan recriwtio Gyrfa Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y rôl, ein polisïau cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.

Anogydd Cyflogadwyedd– Cymraeg yn Hanfodol (Dyddiad Cau 18/10/2026) in Wrexham employer: Careers Wales

Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) is an exceptional employer dedicated to inspiring and supporting individuals in their career journeys. With a strong commitment to diversity and inclusion, we offer flexible working hours, 31 days of annual leave, and comprehensive training opportunities, including support for obtaining valuable qualifications. Our positive work culture fosters collaboration and creativity, making it a rewarding environment for those passionate about helping others achieve their career goals.

Careers Wales

Contact Details:

Careers Wales Recruitment Team