Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.
Dadansoddydd Busnes
Cyflog: £44,367 - £47,583 (Cyflog Cychwynnol £44,367)
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: I’w benderfynu ar ôl penodi (un o'n canolfannau Gyrfa sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru).
Oriau gwaith: Llawn amser (37 awr yr wythnos)
Dyddiad cau: Hanner nôs 17/09/2026
Rydyn ni’n chwilio amr Dadansoddydd Busnes profiadol i helpu i wella gwasanaethau sy'n cefnogi lles a chyfleoedd pobl ledled Cymru yn y dyfodol. Gan weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sefydliad, byddwch chi’n defnyddio mewnwelediad, tystiolaeth a dadansoddiad i ddeall heriau cymhleth, nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a llywio atebion ymarferol sy'n cefnogi blaenoriaethau’r sefydliad ac anghenion defnyddwyr.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i wneud cyfraniad allweddol at ein hagenda trawsnewid, gan arwain dadansoddiad ar draws gwasanaethau, systemau a ffyrdd o weithio. Byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch arweinwyr, timau gweithredol ac arbenigwyr digidol i wella gwasanaethau, dylanwadu ar benderfyniadau a chyflwyno atebion cynhwysol, dwyieithog, sy’n canolbwyntio ar unigolion sy'n creu canlyniadau gwell i gwsmeriaid a'r sefydliad.
Bydd gan y sawl a benodir radd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol mewn dadansoddi busnes, cyflwyno digidol, gwella gwasanaethau, newid sefydliadol neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Bydd hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn dulliau ac ymarfer dadansoddwr busnes.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.
Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd. Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen manyleb lawn y swydd: Dadansoddydd Busnes
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 17/09/2026 (hanner nôs) .
Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar 05/10/26 - 8/10/26.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV .
Dadansoddydd Busnes, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 17/09/26) in Porthmadog employer: Careers Wales
Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) is an exceptional employer dedicated to inspiring and supporting individuals in their career journeys. With a strong commitment to diversity and inclusion, we offer flexible working hours, 31 days of annual leave, and comprehensive training opportunities, including support for obtaining valuable qualifications. Our positive work culture fosters collaboration and creativity, making it a rewarding environment for those passionate about helping others achieve their career goals.