Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26) in Llanelli

Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26) in Llanelli

Llanelli Full-Time On-site
Careers Wales

Swydd Wag: Swyddog Gweinyddol, Gyrfa Cymru

Ydych chi'n chwilio am swydd sy’n rhoi cyfle i weithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sydd â ffocws ar gwsmeriaid i ymuno â'n tîm a darparu cefnogaeth weinyddol er mwyn ein galluogi ni i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfaoedd ac annog hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bobl o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.

Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swydd hon fod â sgiliau Cymraeg lefel Ganolradd o leiaf.

Rôl Swydd: Swyddog Gweinyddol

Sylfaen: Canolfan Gyrfaoedd Llanelli

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Graddfa Gyflog: £25,957 - £26,131

Cyflog cychwynnol: £25,957 y flwyddyn.

Dyddiad Cau: Hanner nos ar y 21/10/26.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaetha derbynfa effeithlon ac effeithiol i dîm Cymru’n Gweithio. Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi ar gyfer y rôl, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Phrentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 2, os nad yw'n meddu ar y cymhwyster hwn eisoes.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos y canlynol:

  • Sgiliau Iaith Gymraeg h.y. y gallu i ddeall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy'n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac esbonio syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml ac ysgrifennu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi'u strwythuro'n dda er mwyn rhannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau neu drefnu gweithgareddau.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol a'r gallu i ddelio ag ymholiadau (ffôn, e-bost ac wyneb yn wyneb) gan aelodau o'r cyhoedd, staff mewnol a rhanddeiliaid allweddol.
  • Ymrwymiad i ddangos gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  • Y gallu i ddelio ag ymholiadau nad ydynt yn arferol lle gallai fod angen trafod a pherswadio
  • Sgiliau digidol y gellir eu dangos
  • Y gallu i drefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith ei hun a gofynion amrywiol o ran terfynau amser
  • Y gallu i ddefnyddio crebwyll a barn mewn dyletswyddau o ddydd i ddydd
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud!

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein proses recriwtio a'n gweithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod y gall pobl fod yn anabl gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi'u cynllunio - nid gan eu amhar ({This placeholder indicates incomplete copy}

#J-18808-Ljbffr

Swyddog Gweinyddol, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 21/10/26) in Llanelli employer: Careers Wales

Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) is an exceptional employer dedicated to inspiring and supporting individuals in their career journeys. With a strong commitment to diversity and inclusion, we offer flexible working hours, 31 days of annual leave, and comprehensive training opportunities, including support for obtaining valuable qualifications. Our positive work culture fosters collaboration and creativity, making it a rewarding environment for those passionate about helping others achieve their career goals.

Careers Wales

Contact Details:

Careers Wales Recruitment Team