Gyrfa Cymru
Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau
Cyflog: £82,947 i £91,308
Math o gontract: Parhaol
Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos)
Lleoliad: Cymru (gyda chylch gwaith cenedlaethol)
Canolfan: I’w benderfynu ar ôl penodi (un o\’n canolfannau Gyrfa sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru).
Dyddiad Cau: Hanner nôs 11/02/2026
Cyflwyniad
Ydych chi\’n arweinydd sydd â gweledigaeth, sy’n barod i ddylanwadu ar ddyfodol cyfarwyddyd gyrfa a chymorth ledled Cymru? Mae Gyrfa Cymru yn chwilio am Gyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau i ysgogi arloesedd, hyrwyddo trawsnewid strategol, a darparu gwasanaethau sy\’n arwain y sector gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Yn y rôl hon byddech yn:
· Darparu arweinyddiaeth glir a strategol ac yn cydweithio ar draws pob maes o\’r cwmni
· Gyrru gwelliant busnes parhaus ac yn diogelu ein modelau gweithredu i’r dyfodol
· Cynrychioli Gyrfa Cymru yn genedlaethol a thu hwnt, gan adeiladu cysylltiadau dylanwadol gyda rhanddeiliaid
· Hyrwyddo\’r Gymraeg ac arwain ar strategaeth y Gymraeg gan gyfrannu at Gymraeg 2050
· Goruchwylio\’r gwaith o gyflwyno ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a meithrin diwylliant o ddiogelu
· Sicrhau bod ein strategaethau yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant cymdeithasol a lles
Gofynion y Gymraeg:
Mae Gyrfa Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried yn gaffaeliad i\’r sefydliad. Rydyn ni’n annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae\’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg weithio tuag at ddatblygu\’r sgiliau hyn.
Pam Gyrfa Cymru?
Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy\’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n darparu gwasanaethau cyfarwyddyd gyrfa ac annog hanfodol, pob oedran, annibynnol, diduedd a dwyieithog yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru’n Gweithio. Byddwch yn ymuno â sefydliad dynamig sydd ar flaen y gad o ran cyfarwyddyd gyrfa, ac yn gweithio gyda chydweithwyr talentog i ddarparu gwasanaethau arloesol, effeithiol. Rydyn ni’n cynnig amgylchedd cefnogol lle bydd eich syniadau a\’ch arweinyddiaeth yn helpu i lunio dyfodol unigolion a chymunedau ledled Cymru.
Buddion
Buddion deniadol gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn buddion wedi\’u diffinio, a chynllun arian yn ôl sy\’n gysylltiedig ag iechyd.
Barod i wneud gwahaniaeth?
Gwnewch gais nawr i fod yn Gyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau a helpwch ni i adeiladu dyfodol mwy disglair i Gymru.
Am ragor o wybodaeth am y rôl, cymerwch gip ar y disgrifiad swydd yma: Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau
Er mwyn gwneud cais, mae\’n ofynnol i chi lenwi ychydig o gwestiynau ynglŷn â\’ch manylion personol, yn ogystal â chyflwyno CV a llythyr eglurhaol. Dylai’ch llythyr eglurhaol fanylu ar sut mae’ch cymwysterau, sgiliau, nodweddion a phrofiad yn bodloni\’r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, a fanylir yn y disgrifiad swydd. Ni ddylai’ch llythyr eglurhaol fod yn fwy na 2 dudalen o hyd.
Mae Gyrfa Cymru yn gweithredu system recriwtio dienw ac ni fydd y panel dethol yn gweld gwybodaeth bersonol wrth dynnu rhestr fer, yn unol â\’n hymrwymiad i roi terfyn ar ragfarn a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion personol ar eich CV neu lythyr eglurhaol.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs 11/02/2026.
Cynhelir asesiad ysgrifenedig ar 25/02/2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 02/03/2026 a 03/03/2026.
Ewch i wefan recriwtio Gyrfa Cymru i gael manylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddarganfod mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a\’n telerau ac amodau.
Yn Gyrfa Cymru, rydyn ni’n ffynnu ar amrywiaeth a chynhwysiant. Credwn fod sefydliadau â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, ac yn hapusach yn gyffredinol. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus rhagorol ac at alluogi gwelliannau parhaus i bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy\’n cynrychioli’r dinasyddion rydyn ni\’n eu gwasanaethu ym mhob gradd swydd.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd, neu gyfeiriadedd rhywiol. Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy\’n rhydd o bob math o wahaniaethu, gan drin pobl yn deg gydag urddas a pharch.
Contact Detail:
Careers Wales Recruiting Team
How to prepare for a job interview at Careers Wales
✨Know Your Stuff
Make sure you thoroughly understand the role of Cyfarwyddydd Cyflwyno Gwasanaethau. Familiarise yourself with Gyrfa Cymru's mission, values, and recent initiatives. This will help you demonstrate your genuine interest and how your vision aligns with theirs.
✨Showcase Your Leadership Skills
Prepare examples that highlight your leadership experience and strategic thinking. Think about times when you've driven change or innovation in previous roles. Be ready to discuss how you can apply these skills to enhance services at Gyrfa Cymru.
✨Emphasise Bilingualism
Since Gyrfa Cymru values Welsh language skills, if you have any proficiency, be sure to mention it! If you're not fluent yet, express your willingness to learn and develop these skills. This shows your commitment to the organisation's bilingual ethos.
✨Prepare Thoughtful Questions
At the end of the interview, you'll likely have the chance to ask questions. Prepare insightful ones that reflect your understanding of the role and the organisation. This could include inquiries about their future strategies or how they measure success in service delivery.