Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yn gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid drwy defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.
Anogydd Cyflogadwyedd (Cymraeg yn hanfodol) – Cyswllt/CGC
Cyflog: £26,276–£28,256
Cyflog Cychwynnol £26,276
Mae gennym swydd llawn amser yn ein tîm Cyswllt Gyrfa Cymru (CGC). Oriau gwaith swydd llawn amser yw 37 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r gwasanaeth CGC ar agor o 9yb tan 5yh, felly bydd disgwyl i ddeiliad swydd weithio i gynnal yr oriau agor yma ar sail rota.
Mae'r swydd yn ddigidol, felly gall yr ymgeisydd llwyddiannus gael ei l/lleoli unrhyw le yng Nghymru gan y bydd y rol yn golygu gweithio o'r cartref yn bennaf. Bydd deiliad y swydd yn cael ei neilltuo i ganolfan a bydd angen mynychu’r swyddfa yn ôl gofynion y busnes.
Sgiliau iaith Gymraeg: Mae'r gallu i siarad a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Byddwch chi'n gallu deall a chyfathrebu'n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus.
Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.
Mae ein Anogyddion Cyflogadwyedd
- yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
- yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
- yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb) i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
- yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).
Dylai Anogyddion Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon NVQ 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.
Gofynion ychwanegol
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Datgeliad Sylfaenol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn ni’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn hapusach ar y cyfan, ac wrth gwrs - dyma'r peth iawn i'w gwneud!
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ceisio gwneud ein prosesau recriwtio a'n weithle yn gefnogol ac yn hygyrch. Mae ein dull yn cael ei lywio gan y model cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod y gall pobl gael eu hanablu gan y ffordd y mae cymdeithas, gweithleoedd, systemau ac agweddau wedi’u cynllunio - nid gan eu amhariad neu eu gwahaniaeth.
Rhowch wybod i ni os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch chi yn ystod y broses recriwtio neu ar ôl eich penodi. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich anghenion, ac mae gwybodaeth recriwtio ar gael mewn fformatau amgen ar gais.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
04/11/2026 (hanner nôs)
Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar 16/11/2026 – 17/11/2026.
#J-18808-Ljbffr
Anogydd Cyflogadwyedd, Cymraeg Hanfodol (Dyddiad Cau 04/11/26) in Abergavenny employer: Careers Wales
Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) is an exceptional employer dedicated to inspiring and supporting individuals in their career journeys. With a strong commitment to diversity and inclusion, we offer flexible working hours, 31 days of annual leave, and comprehensive training opportunities, including support for obtaining valuable qualifications. Our positive work culture fosters collaboration and creativity, making it a rewarding environment for those passionate about helping others achieve their career goals.