Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli'r tîm Cynllunio, Perfformiad a Risg.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd yn cynnwys rheoli, datblygu, gweithredu, cynnal a chadw ac adolygu'r swyddogaethau allweddol canlynol:
- Rheoli cynllunio, perfformiad a risg y Gwasanaeth
- Sicrhau bod adroddiadau strategol statudol, sy’n cynnwys Cynllun Rheoli Risg Cymunedol y Wasanaeth a’r Cynllun Gwella Blynyddol, yn cael eu cynhyrchu yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
- Rheoli a chydlynu systemau data a gwybodaeth sefydliadol berthnasol.
- Goruchwylio bod yr holl ffurflenni data/gwybodaeth ac adroddiadau'n cael eu paratoi, eu dilysu a'u cyflwyno i'r awdurdodau perthnasol.
Bydd deiliad y swydd yn datblygu dull adrannol wrth gorffori gwelliant parhaus ar hyd y Gwasanaeth.
Bydd y swydd heriol hon yn gofyn bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n gydweithredol â phersonél Gwasanaethau Tân ac Achub eraill ac felly mae'r gallu i deithio'n ofynnol.
Position Details
- Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
- Cyfarwyddiaeth: Perfformiad Gwasanaeth
- Cyfeirnod Swydd: NU285
- Lleoliad: Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX
Contact Details:
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd Recruitment Team