Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren) in Newtown

Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren) in Newtown

Newtown Full-Time No working from home possible
C

Ydych chi'n angerddol am theatr, cerddoriaeth a chelf ac eisiau chwarae rhan allweddol wrth ddarparu profiad rhagorol i'n holl gwsmeriaid?

Yna beth am wneud cais i ymuno â'n tîm yn Theatr Hafren o fewn Grwp Colegau NPTC.Cyflog: Graddfa 3, Pwyntiau 17 - 20, £26,462 - £28,496 y flwyddyn, pro rata sy'n gyfwerth â £11,443 - £12,322 y flwyddyn.Oriau Gwaith: 16 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).Contract: Parhaol, rhan-amser.Ynglyn â chi: Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 3 (NVQ neu gyfwerth) a hefyd cymwysterau lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a phrofiad perthnasol a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel
2. Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil.

Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad.

Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael.

Caiff y rhain eu gweinyddu drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu’r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.

Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg.

Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr.

Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!

#J-18808-Ljbffr

Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren) in Newtown employer: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd

Join a pioneering agricultural enterprise in Shropshire that values innovation and sustainability, offering a competitive salary and accommodation support. As a Mixed Farm Worker, you'll benefit from hands-on training in both modern fruit production and regenerative livestock management, fostering your professional growth in a supportive and dynamic work environment. This role is perfect for those eager to develop their skills while contributing to a forward-thinking farm committed to excellence.

C

Contact Details:

Career Choices Dewis Gyrfa Ltd Recruitment Team