At a Glance
- Tasks: Design inclusive services that enhance well-being and opportunities across Wales.
- Company: Career Choices Dewis Gyrfa Cyf, a Welsh Government-owned company.
- Benefits: Flexible working, 31 days annual leave, and a contributory pension scheme.
- Other info: Welsh language skills are preferred; diverse applicants are encouraged to apply.
- Why this job: Lead strategic change and make a real difference in public services.
- Qualifications: Experience in service design or user-focused digital design is essential.
The predicted salary is between 50156 - 54013 £ per year.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys rhaglen Cymru'n Gweithio.
Dylunydd Gwasanaeth
Cyflog: £50,156 - £54,013 (Cyflog Cychwynnol £50,156)
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: I’w benderfynu ar ôl penodi (un o'n canolfannau Gyrfa sydd ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru).
Oriau gwaith: Llawn amser (37 awr yr wythnos)
Dyddiad cau: Hanner nôs 17/09/2026
Rydyn ni’n chwilio am Ddylunydd Gwasanaeth profiadol i helpu i lywio a gwella gwasanaethau sy’n cefnogi lles a chyfleoedd pobl ledled Cymru yn y dyfodol. Gan weithio wrth wraidd ein hagenda trawsnewid, byddwch chi’n defnyddio mewnwelediad defnyddwyr, tystiolaeth a dulliau dylunio gwasanaeth i greu gwasanaethau di-dor, cynhwysol a dwyieithog sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac amcanion y sefydliad.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain newid strategol a gweithredol ar draws gwasanaethau, systemau a ffyrdd o weithio. Gan gydweithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws y sefydliad, byddwch yn dylunio teithiau gwasanaeth o'r dechrau i'r diwedd, yn dylanwadu ar benderfyniadau ac yn sbarduno gwelliant parhaus i sicrhau bod ein gwasanaethau yn parhau i fod yn hygyrch, yn effeithiol ac yn canolbwyntio ar gyflwyno'r canlyniadau gorau posibl i gwsmeriaid.
Bydd gan y sawl a benodir radd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol mewn dylunio gwasanaethau, dylunio digidol, dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Bydd hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn dulliau ac ymarfer dylunio gwasanaethau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon.
Ceir buddiannau deniadol, gan gynnwys gweithio ystwyth, amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyfrannol, a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd.
Ein hymrwymiad i gynhwysiant
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd. Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg. Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
Dylunydd Gwasanaeth, Cymraeg Dymunol (Dyddiad Cau 17/09/26) in Cardiff employer: Career Choices Dewis Gyrfa Ltd
Join a pioneering agricultural enterprise in Shropshire that values innovation and sustainability, offering a competitive salary and accommodation support. As a Mixed Farm Worker, you'll benefit from hands-on training in both modern fruit production and regenerative livestock management, fostering your professional growth in a supportive and dynamic work environment. This role is perfect for those eager to develop their skills while contributing to a forward-thinking farm committed to excellence.
Contact Details:
Career Choices Dewis Gyrfa Ltd Recruitment Team