Job Advert
This post is currently open to employees of Cardiff University only. Please do not apply if you do not have a current contract of employment with the University.
Internal Applicants only – Dean for International Research Partnerships
We are seeking an exceptional academic leader to become our Dean for International Research Partnerships. This strategic leadership role will shape and strengthen Cardiff University’s global research partnerships, ensuring they are strategically aligned, equitable, reciprocal and supported by robust governance arrangements.
You will work closely with the Pro Vice-Chancellor (Research, Innovation and Enterprise), the International Office, Deans, and colleagues across the University to develop, enhance and oversee our portfolio of international research partnerships. You will play a central role in delivering the University’s Global Plan and Research and Innovation Delivery Plan, supporting the growth of high-quality international collaboration, research income, outputs and impact.
You will lead the development of frameworks, systems and processes that enable international partnerships to flourish, while acting as a senior ambassador for Cardiff University with international governments, funders, embassies, universities and external organisations.
We are seeking a strategic and collaborative leader with a strong track record of international research collaboration, partnership development and stakeholder engagement. This is an exciting opportunity to influence the University’s international research agenda and enhance Cardiff University's global reputation and impact. The role is open to academic members of staff with the appropriate experience and expertise who can provide dedicated academic leadership in this area.
Role
The role is available at 0.8FTE and fixed term for three years. The role holder will receive an annual one-off non-pensionable allowance of £6,000.
How to apply
To apply, please upload a short CV (no longer than five sides of A4) and supporting statement (no more than two sides) addressing the following under clear headings:
- An outline of how your experience, skills and expertise equip you to make a positive contribution in the role.
- The challenges the University needs to focus on.
- How you will build effective working relationships across the University and externally.
- The personal characteristics that make you suited to undertake the role.
Closing date
15 July 2026
External applications are currently not being considered for this post. If the decision is made to open the post to external candidates, the strapline at the top will be removed and you will be given ample time to apply – please check back periodically for details.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. We especially welcome and encourage applications from those under-represented groups within the University workforce, such as those who identify as LGBT+, Ethnic Minority or those with disabilities. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Hysbyseb Swydd
Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol.
Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Deon Partneriaethau Ymchwil Rhyngwladol
Rydym yn chwilio am arweinydd academaidd eithriadol i fod yn Ddeon Partneriaethau Ymchwil Rhyngwladol. Bydd y rôl arwain strategol hon yn llunio ac yn cryfhau partneriaethau ymchwil byd-eang Prifysgol Caerdydd, gan sicrhau eu bod yn gyson yn strategol, yn deg, o fudd i’r ddwy ochr ac yn cael eu cefnogi gan drefniadau llywodraethu cadarn.
Byddwch yn gweithio'n agos gyda’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil, Arloesi a Menter), y Swyddfa Ryngwladol, Deoniaid a chydweithwyr ledled y Brifysgol i ddatblygu, gwella a goruchwylio ein portffolio o bartneriaethau ymchwil rhyngwladol. Byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni Cynllun Byd-eang a Chynllun Cyflawni Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol, gan gefnogi twf cydweithredu rhyngwladol o safon, incwm ymchwil, allbynnau a thraweffaith.
Byddwch yn arwain y gwaith o ddatblygu fframweithiau, systemau a phrosesau sy’n galluogi partneriaethau rhyngwladol i ffynnu, yn ogystal â bod yn uwch-lysgennad i Brifysgol Caerdydd gyda llywodraethau rhyngwladol, cyllidwyr, llysgenadaethau, prifysgolion a sefydliadau allanol.
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol a chydweithredol sydd â hanes cryf o gydweithredu ym myd ymchwil ryngwladol, datblygu partneriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Dyma gyfle cyffrous i ddylanwadu ar agenda ymchwil ryngwladol y Brifysgol a gwella enw da a thraweffaith fyd-eang Prifysgol Caerdydd. Caiff unrhyw aelod o’r staff academaidd sydd â’r profiad a’r sgiliau priodol, ac sy’n gallu darparu arweinyddiaeth academaidd bwrpasol yn y maes hwn, wneud cais am y rôl hon.
Rôl
Mae'r rôl ar gael ar 0.8CALl ac am dymor penodol o dair blynedd. Bydd deiliad y swydd yn cael lwfans blynyddol amhensiynadwy untro, sef £6,000.
Sut i wneud cais
Er mwyn ymgeisio, uwchlwythwch CV byr (dim mwy na phum ochr A4) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy ochr) gan roi sylw i'r canlynol o dan benawdau clir:
- Amlinelliad o sut mae eich profiad, eich sgiliau a'ch arbenigedd yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn y rôl.
- Yr heriau y mae gofyn i'r Brifysgol ganolbwyntio arnynt.
- Sut y byddwch yn meithrin cysylltiadau gwaith effeithiol ledled y Brifysgol ac yn allanol.
- Y nodweddion personol sy’n eich gwneud yn addas i ymgymryd â’r rôl.
Dyddiad cau
15 Gorffennaf 2026
Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan y rhai o grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn gweithlu'r Brifysgol, fel y rhai sy'n uniaethu fel LGBT+, o gefndiroedd ethnig leiafrifol neu'r rhai ag anableddau. Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.