At a Glance
- Tasks: Shape innovative law curriculum and engage students in real-world legal challenges.
- Company: Cardiff School of Management, a leading institution in business and law education.
- Benefits: Competitive salary, professional development, and opportunities for impactful research.
- Other info: Exciting career growth in a supportive academic environment.
- Why this job: Join a dynamic team making a difference in law and justice education.
- Qualifications: Strong legal background with teaching experience in law or criminology.
The predicted salary is between 53301 - 61759 £ per year.
Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi'i lleoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf sy’n agos at galon y brifddinas, ac mae'r Brifysgol yn cynnig portffolio amrywiol o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Mae adran y Gyfraith wedi’i lleoli yn yr Ysgol ac mae'n chwarae rhan ganolog wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Brifysgol (Strategaeth 2030).
Mae YRC yn ddarparwr addysg Busnes a Rheoli uchelgeisiol ac achrededig.
Mae cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu cefnogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a'r Gyfraith; Marchnata a Strategaeth; a Rheoli Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau.
Mae staff yn falch iawn o'u cyfraniad sylweddol tuag at adfywiad rhanbarthol a thwf economaidd trwy addysgu, gwaith menter ac ymchwil gymhwysol.
Yn 2024, daeth yr Ysgol y Brifysgol gyntaf yng Nghymru a'r drydedd yn unig yn y DU i dderbyn label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheolaeth am yr effaith economaidd gadarnhaol y mae'r Ysgol yn ei chael ar Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae'r Ysgol yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd.
Gyda thua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli yn ein partneriaid TNE rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.
Mae Adran Busnes, Rheoli a'r Gyfraith Ysgol Reoli Caerdydd yn chwilio am Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith gyda phroffil troseddeg cryf a ffocws cymdeithasol-gyfreithiol ac athrawiaethol clir.
Mae hwn yn benodiad strategol bwysig a fydd yn cryfhau darpariaeth gynyddol yr Adran ar groesffordd y gyfraith, troseddeg, cyfiawnder a pholisi cyhoeddus.
Mae'r Adran yn cyflwyno ystod o raglenni'r gyfraith hynod lwyddiannus, gan gynnwys LLB (Anrh), BA (Anrh) y Gyfraith a Throseddeg, BA (Anrh) Cyfraith a Rheoli Busnes, a llwybr Sylfaen mewn Astudiaethau Cyfreithiol.
Yn 2024, lansiodd yr Adran Clinig Cyfraith Entrepreneuraidd YRC, gan ddarparu cyfleoedd dan oruchwyliaeth i fyfyrwyr ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol mewn lleoliad go iawn.
Mae addysgu ar draws yr Adran yn blaenoriaethu cyflogadwyedd, sgiliau proffesiynol a ddatblygiad personol, tra'n lleoli'r gyfraith yn gadarn o fewn ei chyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol a throseddol ehangach.
Mae'r dull hwn yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol â rôl y gyfraith wrth lunio cyfiawnder, anghydraddoldeb a chanlyniadau cymdeithasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysgolhaig cyfreithiol sydd a phrofiad o droseddeg, sy'n gallu cyfrannu at addysgu ar lefel israddedig ar draws rhaglenni cyfraith a throseddeg, gyda chryfder arbennig mewn meysydd sy'n archwilio troseddu, cyfiawnder a rheoleiddio o safbwynt cyfreithiol.
Bydd disgwyl iddynt gefnogi datblygiad y cwricwlwm, cyfrannu at ymchwir ac ysgolheictod, a gwella ethos addysgu cymhwysol sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol yr Adran.
Deiliad y Rôl Yn Cyfrannu At Addysgu Ar Draws Ystod o Fodiwlau Israddedig, Gyda Diddordebau Addysgu Ac Ymchwil Wedi'u Halinio Ag Un Neu Fwy O'r Meysydd Canlynol
- Cosb a Chyfiawnder
- Mynediad at Gyfiawnder
- Cyfiawnder Troseddol ac Ymatebion Cyfreithiol i Droseddu
- Cyfraith Teulu a Chyfiawnder Cymdeithasol
- Datrys Anghydfodau Amgen
- Sgiliau Cyfreithiol a Phroffesiynol
- Terfysgaeth, radicaleiddio a thrais
- Cyfraith a Systemau Rhyngwladol a Chymharol
- Goruchwylio traethodau neu brosiectau blwyddyn olaf
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i arbenigwr troseddeg sydd â sylfaen gyfreithiol gref i lunio cwricwlwm arloesol, sy'n canolbwyntio ar ymarfer ac i gyfrannu'n ystyrlon at ddadleuon ynghylch y gyfraith, trosedd a chyfiawnder mewn cymdeithas.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau
Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at ystod o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig yn ein darpariaeth y Gyfraith a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad.
Yn frwdfrydig am addysgeg sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd disgwyl i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran ac i fodloni'r gofynion ansoddol a meintiol i'w cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
Mae croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr rhagorol sydd â phrofiad addysgu ac ymchwil.
Bydd cyfleoedd i gyfrannu at oruchwyliaeth ymchwil Ôl-raddedig.
- Beth rym rys ni'n chwilio amdano
- Gradd Meistr (LLM/MA/MRes) neu gymhwyster cyfatebol yn y Gyfraith neu Droseddeg/Cyfiawnder Troseddol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Gwybodaeth fanwl o bwnc a maes proffesiynol y Gyfraith, Troseddeg / Cyfiawnder Troseddol neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
- Profiad blaenorol o addysgu/ymarfer proffesiynol AU y Gyfraith neu gymhwysedd cyfatebol a chymhwysedd arddangos i addysgu egwyddorion ymddygiad proffesiynol cyfreithiol ar raglenni cysylltiedig.
- Gradd anrhydedd dda.
- Dealltwriaeth fanwl o addysgeg.
- Dealltwriaeth fanwl o ymchwil/menter a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Y gallu i gynllunio, datblygu a chyflwyno ystod o raglenni ar wahanol lefelau.
- Y gallu i adolygu dyluniad rhaglenni yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau ansawdd a rheoliadau academaidd ac i wneud newidiadau lle bo hynny'n briodol.
- Y gallu i gyfrannu at gyflawni Cynllun Datblygu’r Ysgol a phrosesau cynllunio strategol y sefydliad.
- Y gallu i ddatblygu amcanion ymchwil, paratoi cynigion, cynnal ymchwir annibynnol, dyfarnu a chyfrannu at asesu cymheiriaid.
- Y gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu/gwella strategol e. e. prosiectau ymchwil, cyrsiau newydd, ymgynghoriaeth.
- Y gallu i nodi (trwy ddadansoddi gwybodaeth reoli briodol) meysydd sydd angen perfformiad gwell e. e. niferoedd myfyrwyr, boddhad myfyrwyr.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora llinell gyntaf i gydweithwyr eraill.
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwir addysgegol ac ymarferwyr.
- Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).
- Cysylltwch â ni
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag Angela Joseph, Pennaeth Adran, yn ajoseph@cardiffmet. ac. uk i gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol, ewch i'n gwefan recriwtio.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Defnyddir y fanyleb person fel arf ar gyfer llunio rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais.
Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais trwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Ymgeisio.
- Dyddiad Cau: 10 Aug 2026
- Ysgol/Uned: Academaidd
- Cyflog: £53,301 to £61,759 y flwyddyn
- Parhaol
- #J-18808-Ljbffr
Uwch Ddarlithydd mewn Y Gyfraith (2526276-1) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that fosters academic excellence and innovation in the field of Forensic Psychology. With a strong commitment to employee development, staff are encouraged to engage in continuous professional growth while enjoying competitive salaries and a supportive environment that values collaboration and research leadership.
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team