Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata (2526645) in Cardiff

Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata (2526645) in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
Cardiff Metropolitan University

Mae Ysgol Reoli Caerdydd (YRC) yn un o bum ysgol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Wedi'n lleoli ar Gampws Llandaf ac yn ein cyfleuster o'r radd flaenaf ger calon y brifddinas, rydym yn cynnig ystod eang o raglenni ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Brifysgol (Strategaeth 2030).

Mae YRC yn ddarparwr addysg Busnes a Rheoli uchelgeisiol ac achrededig. Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf ar Gampws Llandaf yn darparu amgylchedd dysgu calonogol a chreadigol, gan arddangos yr Ysgol fel canolfan flaenllaw yn y DU ar gyfer Cyfrifeg, Economeg a Chyllid; Busnes, Rheoli a’r Gyfraeth; Marchnata a Strategaeth; a Thwristiaeth, Lletygarwch a Rheoli Digwyddiadau.

Yn 2024, daeth yr Ysgol y Brifysgol gyntaf yng Nghymru a dim ond y drydedd yn y DU i dderbyn label System Effaith Ysgol Fusnes (BSIS) gan y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Rheoli am yr effaith economaidd gadarnhaol sydd gan yr Ysgol ar Ranbarth Prifddinas Caerdydd.

Mae'r Ysgol yn falch o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth gyflwyno rhaglenni ledled y byd. Gyda thua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio rhaglenni rheoli yn ein partneriaid Addysg Drawswladol rhyngwladol, mae'r Ysgol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gyfleoedd bywyd myfyrwyr a chymunedau ledled y byd.

Mae Adran Marchnata a Strategaeth Ysgol Reoli Caerdydd yn ceisio penodi dau academydd brwdfrydig a chymhellol ar lefel Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata (mae'r ddau yn barhaol; un CALl ac un 0.5 CALl).

Elfen allweddol o rôl yr ymgeisydd llwyddiannus fydd gweithio gyda'r tîm Rheoli Marchnata a chefnogi meysydd diddordeb newydd a datblygiadau cwricwlwm newydd gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol; dadansoddeg ddigidol; deallusrwydd artiffisial; a marchnata byd-eang. Byddai arbenigedd sy'n ymwneud ag unrhyw un o'n rhaglenni enwol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn fantais, yn enwedig o ran Marchanta Ffasiwn, Prynu Ffasiwn, Rheoli Brand, a Marchanta Digidol.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Bydd gofyn i chi wneud cyfraniad sylweddol at gyflwyno ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno'r cyfres o raglenni israddedig a rhaglenni ôl-raddedig. Yn dibynnu ar eich profiad, efallai y byddwch hefyd yn rhan o'n cyrsiau Sylfaen, BA Rheoli Busnes neu MBA, ac mae gan bob un ohonynt lwybrau marchnata.

Yn frwdfrydig dros addysgeg sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, byddwch yn cyfrannu at ddarparu addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws yr ystod o raglenni. Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at ganlyniadau graddedigion, ac ymgysylltiad proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Disgwylir i chi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a bodloni'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano

Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad myfyrwyr rhagorol. Mae proffil ymchwir sefydledig neu addawol ym maes Rheoli Marchnata neu faes cysylltiedig, a phrofiad addysgu ar raglenni perthnasol yn hanfodol.

Er mwyn llwyddo byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth am y pwnc fel y dangosir trwy eich cymwysterau a'ch profiad.

  • Lefel fanwl o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
  • Dealltwriaeth gref o bedagogeg.
  • Y gallu i arwain ymchwil/arloesi a gweithgaredd ysgolheigaidd.
  • Y gallu i ddylunio a datblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
  • Y gallu i ddylunio deunyddiau addysgu a dysgu a defnyddio dulliau asesu priodol.
  • Y gallu i arwain ar feysydd a nodwyd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
  • Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amrywiaeth o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
  • Profiad o addysgu Addysg Uwch neu gyfwerth.
  • Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chefnogaeth/mentora rheng gyntaf i gydweithwyr eraill.
  • Gradd anrhydedd dda a cymhwyster Doethuriaeth.
  • Y gallu i gyflawni Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ac yn bendant o fewn tair blynedd i ddechrau cyflogaeth).

Dyddiad Cau: 26 Nov 2026

Ysgol/Uned: Academaidd

Cyflog: £54,367 to £62,994 y flwyddyn

Parhaol. x1 FTE ac x1 0.5 FTE

Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata (2526645) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University

Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant academic environment that fosters professional growth and development. As a sessional tutor in Counter-Terrorism Risk Management, you will benefit from a supportive work culture that values innovation and student engagement, while also having access to continuous professional development opportunities to enhance your teaching skills. Located in the dynamic city of Cardiff, the university provides a unique opportunity to contribute to meaningful education in a diverse and inclusive setting.

Cardiff Metropolitan University

Contact Details:

Cardiff Metropolitan University Recruitment Team