At a Glance
- Tasks: Lead innovative interprofessional education programmes and enhance student engagement.
- Company: Dynamic university committed to global learning and research excellence.
- Benefits: Competitive salary, professional development, and a supportive community.
- Other info: Join a vibrant team with excellent career growth opportunities.
- Why this job: Make a real impact in education and research while shaping future professionals.
- Qualifications: Strong background in teaching, research, and interprofessional collaboration.
The predicted salary is between 53301 - 61759 £ per year.
- Cyflog: Gradd 8A/B, £53,301 – £61,759 y flwyddyn pro rata
- Oriau: 22.2 awr yr wythnos
- Daliadaeth: Parhaol
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn i ddderbyn eich cais.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i cefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir Addysg Rhyngbroffesiynol (Arh) gan hwyluso dylunio a gweithredu strategaethau ARh arloesol a meysydd eraill o'n cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad.
Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
- Beth rydym yn chwilio amdano
- Gwybodaeth fanwl am y pwnc arbenigol a’r maes proffesiynol.
- Dealltwriaeth fanwl o addysgeg.
- Dealltwriaeth fanwl o ymchwil/mentergarwch a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Y gallu i ddylunio, datblygu a chyflwyno amrywiaeth o raglenni ar wahanol lefelau.
- Y gallu i adolygu cynllun rhaglenni’n rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau ansawdd a rheoliadau academaidd ac i wneud addasiadau lle bo hynny'n briodol.
- Y gallu i gyfrannu at wireddu Cynllun Datblygu’r Ysgol a phrosesau cynllunio strategol y sefydliad.
- Y gallu i ddatblygu amcanion ymchwil, paratoi cynigion, cynnal ymchwil annibynnol, bod yn ganolwr a chyfrannu at asesu gan gymheiriaid.
- Y gallu i nodi cyfleoedd ar gyfer datblygu/gwella strategol e. e. prosiectau ymchwil, cyrsiau newydd, ymgynghori.
- Y gallu i nodi (trwy ddadansoddi gwybodaeth reoli briodol) feysydd sydd angen perfformiad gwell e. e. niferoedd myfyrwyr, boddhad myfyrwyr.
- Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
- Profiad o gymryd rhan mewn ymchwil addysgegol ac ymarferwyr.
- Gradd anrhydedd dda.
- Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
Ar gyfer llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
Cysylltu â ni
Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch â Dr Joanne Fawcett, yn jfawcett@cardiffmet. ac. uk.
Rhaid cyflwyno pob cais ar-lein.
Bydd manyleb y person yn cael ei ddefnyddio i lunio'r rhestr fer; felly cofiwch ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu’ch cais.
Mae cyngor ac awgrymiadau defnyddiol am sut i wneud cais ar ein tudalen Canllawiau Ymgeisio.
- Dyddiad Cau: 22 Jul 2026
- Ysgol/Uned: Academaidd
- Cyflog: £53,301 to £61,759 y flwyddyn pro rata
- Parhaol
- #J-18808-Ljbffr
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team