Technegydd Arddangoswr mewn technolegau Rhaglenadwy a Digidol (2526610) in Cardiff

Technegydd Arddangoswr mewn technolegau Rhaglenadwy a Digidol (2526610) in Cardiff

Cardiff Full-Time No working from home possible
C

Rydym yn chwilio am Dechnegydd Arddangoswr sydd ag arbenigedd a sgiliau ym maes cymwysiadau creadigol o dechnolegau rhaglenadwy, i ategu ein darpariaeth dechnegol ragorol.

Mae'r tîm technegol, a'r gweithdai, y stiwdios a'r adnoddau y maent yn eu rheoli, yn allweddol i brofiad myfyrwyr YGDC. Mae'r tîm technegol yn rheoli darpariaeth dechnegol YGDC, gan ddefnyddio offer a gofod yr Ysgol o fewn system sy'n sicrhau tegwch ac yn gwella diogelwch, tra'n hyrwyddo creadigrwydd, dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, a mentergarwch.

Bydd gennych wybodaeth eang ac ymarferol am electroneg a dylunio PCB, yn ogystal â'r gallu i raglennu electroneg gan ddefnyddio systemau fel Arduino, Raspberry Pi ac ESP32.

Byddwch Yn Arwain y Ffordd Drwy

  • Goruchwylio prosesau ac arferion creadigol i hwyluso dysgu myfyrwyr.
  • Dangos technegau a phrosesau.
  • Cydlynu gofynion a phrynu deunyddiau ac offer.
  • Datblygu sgiliau a gwybodaeth bersonol i gefnogi profiad y myfyrwyr.
  • Sicrhau arfer diogel drwy weithredu polisi Iechyd a Diogelwch yr Ysgol.

Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu

  • Sgiliau technegol / arbenigol y gellir eu dangos mewn disgyblaeth berthnasol.
  • Y gallu i gynnal gweithgareddau gweithdy mewn mannau rhithwir yn ogystal â mannau ffisegol.
  • Sgiliau cyfathrebu clir - yn gallu egluro cysyniadau technegol yn glir ac yn gryno i gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr.
  • Dull sy'n canolbwyntio ar waith tîm - Rydych chi'n gweithio'n dda gydag eraill, yn cwrdd â therfynau amser ac yn cyfrannu at nodau cyffredin.
  • Y gallu i ddatrys problemau technegol yn greadigol.
  • Y gallu i gymhwyso gwybodaeth am faterion iechyd a diogelwch perthnasol.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.

Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel

  • Gwyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd â 12 diwrnod gwyliau banc / diwrnodau consesiynol.
  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
  • Polisïau rhagorol sy'n ystyriol o deuluoedd - cymerwch olwg ar ein tudalen Canolfan Bolisïau.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau, gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr annibynnol arbenigol o gymorth lles, Health Assured.

Dyddiad Cau: 13 Aug 2026

Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £39,906 to £44,746 y flwyddyn pro rata

yn ystod y tymor yn unig (patrwm gwaith 18.5 awr yr wythnos dros 39 wythnos y flwyddyn)

#J-18808-Ljbffr

Technegydd Arddangoswr mewn technolegau Rhaglenadwy a Digidol (2526610) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University

Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that fosters academic excellence and innovation in the field of Forensic Psychology. With a strong commitment to employee development, staff are encouraged to engage in continuous professional growth while enjoying competitive salaries and a supportive environment that values collaboration and research leadership.

C

Contact Details:

Cardiff Metropolitan University Recruitment Team