Mae Chwaraeon Met Caerdydd wrth wraidd chwaraeon, gweithgarwch corfforol, iechyd a lles ym Mhrifddinas Cymru. Mae ein cenhadaeth yn glir - 'gwella bywydau ein cymunedau yn ddwfn, gan eu gwneud yn iachach ac yn gryfach o ganlyniad i ymgysylltu â ni'.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu a rheoli cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel gan gynnwys, y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, y Ganolfan Tenis ac Arena Archers ar ein Campws Cyncoed ynghyd â nifer o Ysgolion yr 21ain Ganrif ledled y Ddinas.
Er mwyn parhau i gyflawni hyn i gyd, mae arnom angen pobl sy'n dod â syniadau ffres, creadigrwydd ac ymrwymiad i wneud gwahaniaeth, sydd eisiau cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl, yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am Brif Ffisiotherapydd i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer datblygu ein darpariaeth gwasanaethau meddygol a'n staff ar draws ein Rhaglenni Chwaraeon Perfformiad a'r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS). Gan weithio o fewn y tîm Gwasanaethau Perfformiad, byddwch hefyd yn cyfrannu at ddarparu cymorth ffisiotherapi ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ymarferwyr meddygol chwaraeon; darparu cefnogaeth o ansawdd uchel sy'n sicrhau'r profiad myfyriwr-athletwr gorau.
Byddwch Yn Gwneud Gwahaniaeth Trwy
- Arwain a goruchwylio darpariaeth ffisiotherapi ac adsefydlu chwaraeon ar draws rhaglenni perfformiad.
- Rheoli cynllunio a gweinyddu gwasanaethau ffisiotherapi o ddydd i ddydd.
- Darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i gefnogi datblygiad a dilyniant darpariaeth ffisiotherapi ac ymarferwyr.
- Cydlynu darparu gwasanaethau ffisiotherapi, gan weithio ar y cyd â'r tîm amlddisgyblaethol ehangach, staff academaidd a gweithlu myfyrwyr.
- Gweithio'n agos gyda chyrff allanol i alinio cefnogaeth a rheolaeth athletwyr perfformiad uchel, gan alluogi amgylchedd chwaraeon prifysgol perfformiad uchel.
Beth …
Byddwch yn dod â phrofiad sylweddol fel ffisiotherapydd mewn amgylchedd chwaraeon, gan gyfuno arbenigedd clinigol cryf gyda sgiliau datrys problemau a chyfathrebu effeithiol.
Yn Ogystal, Byddwch Chi’n
- Meddu ar radd mewn Ffisiotherapi, bod yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, a bod wedi'ch cofrestru gyda HCPC ynghyd â chymhwyster trawma ochr y cae.
- Meddu ar brofiad sylweddol o asesu a thrin cyflyrau cyhyrysgerbydol ac anafiadau chwaraeon, gan gynnwys cymorth ar ochr y cae.
- Dangos profiad o ddatblygu gwybodaeth, prosesau a darpariaeth gwasanaeth ymarferwyr.
- Callu adeiladu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol gydag athletwyr, staff a rhanddeiliaid allanol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac rydym yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn cofleidio cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Trwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch yn cael eich hun mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda'ch datblygiad gyrfa.
Rydym Yn Cynnig Manteision Rhagorol Fel
- Gwyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl y banc / consesiynol.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
- Polisïau ardderchog sy'n cyfeillgar i deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd i'n darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Bydd y fanyleb person yn cael ei defnyddio fel offeryn ar gyfer rhestr fer; felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais drwy ymweld â'n tudalen Canllawiau Ymgeisio.
Dyddiad Cau: 18 Nov
#J-18808-Ljbffr
Pennaeth Ffisiotherapi (2526465-1) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant academic environment that fosters professional growth and development. As a sessional tutor in Counter-Terrorism Risk Management, you will benefit from a supportive work culture that values innovation and student engagement, while also having access to continuous professional development opportunities to enhance your teaching skills. Located in the dynamic city of Cardiff, the university provides a unique opportunity to contribute to meaningful education in a diverse and inclusive setting.
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team