Rydym am recriwtio chwaraewr tîm ymroddedig i gynorthwyo tîm y Rhaglenni a Addysgir i gyflawni ei ymrwymiad i gefnogi pob agwedd ar daith y myfyriwr. Gan weithio fel rhan o dîm o weinyddwyr, mae'r rôl allweddol hon yn cefnogi Cyfarwyddwyr Rhaglenni, Tiwtoriaid Blwyddyn a Phenaethiaid Adran gyda chefnogaeth weinyddol lefel uchel wrth ddarparu rhaglenni o fewn yr Ysgol o ddydd i ddydd. Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw unigolyn sydd â'r gallu i gydlynu gweinyddiaeth rhaglenni yn effeithiol gan ddefnyddio sgiliau dylanwadu a thrafod er mwyn sicrhau bod gwasanaeth proffesiynol yn cael ei hwyluso i staff a myfyrwyr.
- Cylch bywyd y myfyriwr, gan sicrhau bod lefel uchel o gymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu ar bob cam o daith y myfyriwr;
- Cydweithwyr academaidd a gweinyddol ar draws ystod o adrannau i sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac effeithlon;
Bydd hi’n ofynnol i ddeiliad y swydd i weithio ei oriau cytundebol ar gampws.
Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu
Gyda sgiliau cyfathrebu gwych a phrofiad yn y Sector Addysg Uwch, byddwch yn gallu cefnogi myfyrwyr ar bob cam o’u taith. Bydd eich arbenigedd mewn cymwysiadau Microsoft Office yn eich galluogi i gynhyrchu dogfennaeth o ansawdd uchel yn effeithlon ac olrhain pob cam o daith y myfyriwr, gan adrodd a chefnogi yn ôl yr angen.
- Paratoi a rheoli'r holl wybodaeth berthnasol ar gyfer yr holl fyrddau arholi, gan gynnwys cyn-fyrddau, gan sicrhau bod yr holl ddata wedi'i gysoni cyn i'r byrddau gychwyn.
- Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer holl gyfarfodydd y Rhaglen a'r Adran, gan sicrhau bod yr holl bapurau perthnasol ar gael trwy Sharepoint.
- Adolygu a diweddaru gweithdrefnau a systemau yn barhaus o fewn maes cyfrifoldeb a rhannu arfer gorau gyda gweinyddwyr eraill ar draws yr Ysgol a'r Brifysgol.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn Brifysgol sy’n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o’n diwylliant, ac yn cefnogi ein staff. Ein hysbryd cymunedol yw'r llinyn aur sy’n sail i’n gwerthoedd a’n hymddygiad. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy’n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â’n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.
Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Fel
- Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl blwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / consesiwn neu.
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau misol hael.
- Polisïau rhagorol sy’n ystyriol o deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Hyb Polisi.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad i gymfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal a chynllun aberthu cyflog beicio i'r gwaith.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth lles arbenigol annibynnol, Health Assured.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Steph Whitfield ar swhitfield@cardiffmet.ac.uk/
Dyddiad Cau: 30 Sep 2026
Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £28,031 to £28,778 y flwyddyn
Contract tymor penodol tan 30/06/2027
#J-18808-Ljbffr
Gweinyddwr Ysgol (Rhaglenni a Addysgir) (2526223-3) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant academic environment that fosters professional growth and development. As a sessional tutor in Counter-Terrorism Risk Management, you will benefit from a supportive work culture that values innovation and student engagement, while also having access to continuous professional development opportunities to enhance your teaching skills. Located in the dynamic city of Cardiff, the university provides a unique opportunity to contribute to meaningful education in a diverse and inclusive setting.
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team