Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddatblygu a darparu ar gyfer talent ifanc sy’n perfformio’n uchel o fewn cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel, gan gynnwys y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, Canolfan Berfformiad Archers, y Ganolfan Tennis ac Archers Arena ar ein Campws yng Nghyncoed.
I barhau i gyflawni hyn, mae arnom angen ‘newidwyr gêm’, pobl ag ymroddiad, angerdd, creadigrwydd a dawn sy’n gweld rhwystrau yn hytrach na phroblemau, sy’n gallu meddwl yn wahanol ac sydd eisiau gwneud effaith gadarnhaol a pharhaol ar fywydau pobl, yng Nghymru a thu hwnt.
Rydym yn edrych i recriwtio ar gyfer nifer o swyddi Ffisiotherapydd Perfformiad achlysurol.
Fel Ffisiotherapydd Perfformiad, byddwch yn dod yn rhan annatod o’r Tîm Gwasanaethau Perfformiad i ddarparu cymorth o’r ansawdd uchaf gyda’r nod o sicrhau’r profiad gorau posibl i fyfyrwyr-athletwyr. Byddwch yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau meddygol i ddetholiad o’n Rhaglenni Chwaraeon Perfformiad, gan weithio ar y cyd â chydweithwyr i gefnogi a gwella’r gofal y mae myfyrwyr-athletwyr yn ei dderbyn yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Met Caerdydd.
Byddwch Yn Chwarae Rhan Allweddol Wrth
- Gynllunio darpariaeth ffisio gadarn ar gyfer rhaglenni perfformiad Chwaraeon Met Caerdydd.
- Dyfu’r ddarpariaeth cymorth perfformiad, gan weithredu hefyd fel arweinydd clinigol ar gyfer athletwyr aml-gamp.
- Gydweithio â chydweithwyr, myfyrwyr a phartneriaid i greu amgylchedd chwaraeon prifysgol perfformiad uchel.
- Ddarparu adroddiadau craff i gynorthwyo â rhaglennu, cynllunio, dewis timau a gwneud penderfyniadau.
Yr hyn y byddwch yn ei gynnig
Byddwch yn cynnig cymwysterau proffesiynol perthnasol mewn ffisiotherapi, ynghyd â phrofiad o gymorth ffisio ar ymyl y cae. Byddwch yn gyfforddus yn cefnogi athletwyr, cydweithwyr a rhanddeiliaid, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a dibynadwy.
Yn Ogystal, Byddwch Yn Cynnig
- Gradd neu gyfwerth mewn ffisiotherapi, aelodaeth o’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig, cofrestriad HCPC a chymhwyster trawma ymyl y cae cydnabyddedig.
- Profiad o asesu a thrin anafiadau cyhyrysgerbydol a chyflyrau sy’n gysylltiedig â chwaraeon.
- Sgiliau datrys problemau cadarn, gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?
Rydym yn Brifysgol sy’n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o’n diwylliant ac rydym yno i’n pobl. Mae ein hysbryd cymunedol yn llinyn euraidd sy’n sail i’n gwerthoedd a’n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy’n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â’n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd i gefnogi eich datblygiad gyrfa.
Rydym Yn Cynnig Buddion Rhagorol Megis
- Polisïau rhagorol sy’n gyfeillgar i deuluoedd - edrychwch ar ein tudalen Canolfan Polisïau.
- Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
- Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
- Mynediad am ddim i deuluoedd at ein darparwr cymorth llesiant annibynnol arbenigol, Health Assured.
Dyddiad Cau: 26 Nov 2026
Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth
Cyflog: £36,320 to £39,560 £18.83 yr awr ynghyd â 14% o dâl gwyliau
Achlysurol
Ffisiotherapydd Perfformiad (amlchwaraeon) (2627147) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University
Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant academic environment that fosters professional growth and development. As a sessional tutor in Counter-Terrorism Risk Management, you will benefit from a supportive work culture that values innovation and student engagement, while also having access to continuous professional development opportunities to enhance your teaching skills. Located in the dynamic city of Cardiff, the university provides a unique opportunity to contribute to meaningful education in a diverse and inclusive setting.
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team