At a Glance
- Tasks: Teach and innovate in Human Nutrition and Dietetics, shaping future professionals.
- Company: Join a vibrant academic community dedicated to research and student success.
- Benefits: Competitive salary, flexible working options, and opportunities for professional development.
- Other info: Dynamic environment with strong support for research and career growth.
- Why this job: Make a real difference in students' lives while advancing your research career.
- Qualifications: Registered Nutritionist with teaching experience and a passion for student-centred education.
The predicted salary is between 46049 - 51753 £ per year.
Os oes gennych hanes o gyraeddiadau sy'n dangos yr ymrwymiad, y gallu a’r brwdfrydedd i gyfrannu at ein cymuned ddysgu fyd-eang trwy addysgu, ysgolheictod, ymchwil ac arloesi rhagorol, ynghyd ag angerdd a rennir am ein gwerthoedd a'n gweledigaeth, edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan, ac i gefnogi, ymgeiswyr a fydd yn helpu i ddatblygu ein statws ymchwil ac a fydd yn gwella amrywiaeth ein prifysgol, ein cymuned a'n partneriaethau.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb mewn trefniant rhannu swydd.
Os ydych chi'n chwilio am hyblygrwydd ac yn dymuno rhannu'r swydd hon gyda gweithiwr proffesiynol arall, rydym yn eich annog i wneud cais.
Nodwch eich dewis o rannu swydd yn eich cais.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Bydd gofyn ichi wneud cyfraniad sylweddol at ddarpariaeth ein portffolio a addysgir gan gyfrannu at gyflwyno rhaglenni sy'n gysylltiedig â Maeth Dynol a Dieteteg a Gwyddor Bwyd a Maeth ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig, a meysydd eraill ein cwricwlwm craidd yn dibynnu ar eich meysydd arbenigedd a phrofiad.
Yn frwdfrydig am addysgeg sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gyflwyno addysg, gan gynnwys rheoli rhaglenni yn ôl yr angen, ar draws y casgliad o raglenni israddedig ac ôl-raddedig.
Byddwch hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyflogadwyedd, ac ymgysylltu proffesiynol â sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol, ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Disgwylir ichi gyfrannu at broffil ymchwil yr adran a chwrdd â'r gofynion ansoddol a meintiol ar gyfer cyflwyno i'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf.
- Beth rydym yn chwilio amdano
- Maethegydd Cofrestredig (Rnutr) gyda’r Gymdeithas Maeth (Af N)
- Lefel dda o wybodaeth sy'n berthnasol i'r pwnc a'r maes proffesiynol.
- Dealltwriaeth gadarn o addysgeg.
- Dealltwriaeth gadarn o ymchwil/arloesi a gweithgarwch ysgolheigaidd.
- Y gallu i ddatblygu rhaglenni addysgu a/neu ymchwil a darparu cymorth dysgu.
- Y gallu i ddylunio deunydd addysgu a dysgu.
- Y gallu i ddefnyddio dulliau asesu priodol.
- Y gallu i nodi meysydd i'w gwella a defnyddio menter a sgiliau datrys problemau i wella perfformiad.
- Y gallu i gyfleu a lledaenu syniadau cymhleth a chysyniadol mewn amryw o ffyrdd - cyflwyniadau mewn cynadleddau, adroddiadau ar ganfyddiadau, cyhoeddiadau, adborth ac ati.
- Profiad o addysgu AU neu gyfatebol.
- Profiad o ddarparu arweinyddiaeth academaidd a chymorth llinell gyntaf/mentora i gydweithwyr eraill.
- Gradd anrhydedd dda.
- Y gallu i ennill cymhwyster doethuriaeth
- Byddai rhywun sy'n Ddietegydd cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn ddymunol
- Y gallu i ennill Statws Cymrawd fel rhan o gynllun Cydnabyddiaeth Broffesiynol yr Academi Addysg Uwch, o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt (cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl ac yn bendant cyn pen tair blynedd o ddechrau eich cyflogaeth).
Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
Mae proffil ymchwil sefydledig neu addawol a phrofiad addysgu da iawn ar raglenni perthnasol yn hanfodol.
Er mwyn llwyddo, byddwch yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr ymhellach drwy eich arbenigedd a'ch gwybodaeth bwnc fel yr amlygir gan eich cymwysterau a'ch profiad.
- Dyddiad Cau: 20 Jul 2026
- Ysgol/Uned: Academaidd
- Cyflog: £46,049 to £51,753 y flwyddyn
- #J-18808-Ljbffr
Contact Details:
Cardiff Metropolitan University Recruitment Team