Cynorthwyydd Recriwtio Myfyrwyr Graddedig (2526576) in Cardiff

Cynorthwyydd Recriwtio Myfyrwyr Graddedig (2526576) in Cardiff

Cardiff Full-Time No working from home possible
C

Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, rydym yn dod â phobl ynghyd i greu cyfleoedd.

Rydym yn darparu gweithgareddau cyfathrebu, brand, marchnata a recriwtio i fyfyrwyr er mwyn sicrhau dull clir a chyson, sy'n cyd-fynd â gwerthoedd, ymddygiadau ac amcanion strategol y Brifysgol. Rydym yn dîm sy'n edrych ymlaen, yn arloesol ac yn greadigol, sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl, a chynyddu effaith popeth a wnawn.

Rydym yn chwilio am ddau Gynorthwyydd Recriwtio Myfyrwyr Graddedig newydd i helpu i lunio sut mae darpar fyfyrwyr yn darganfod ac yn profi Met Caerdydd.

Dan arweiniad y Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr, byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth helpu darpar fyfyrwyr i archwilio eu hopsiynau addysg uwch a darganfod beth all Prifysgol Metropolitan Caerdydd ei gynnig.

Gan dynnu ar eich profiad eich hun fel graddedig o Brifysgol Met Caerdydd, byddwch yn ymgysylltu â myfyrwyr, rhieni, athrawon a chynghorwyr drwy amrywiaeth o weithgareddau recriwtio ledled Cymru a'r DU. Byddwch yn cynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau, yn rhoi cyflwyniadau ac yn ein helpu i gysylltu â myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd.

Bydd eich gwaith yn cefnogi ein cynlluniau recriwtio a throsi myfyrwyr yn uniongyrchol, gan helpu mwy o fyfyrwyr i deimlo'n wybodus, hyderus ac yn edrych ymlaen am eu dyfodol.

Yn Ogystal, Byddwch Yn Gwneud y Canlynol

  • Cefnogi'r gwaith o gynnal digwyddiadau recriwtio ar y campws, gan gynnwys Diwrnodau Agored a Diwrnodau Ymgeiswyr.
  • Cynrychioli Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn ffeiriau addysg uwch, digwyddiadau ysgolion a cholegau, a nosweithiau rhieni ledled Cymru a'r DU.
  • Cefnogi ymgyrchoedd galwadau ac ymgysylltu darpar fyfyrwyr.
  • Helpu i recriwtio, hyfforddi a chefnogi Llysgenhadon Myfyrwyr.
  • Casglu a rhannu mewnwelediadau marchnad gan ysgolion a cholegau i helpu i lunio gweithgaredd recriwtio yn y dyfodol.
  • Darparu cefnogaeth weinyddol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau recriwtio.

Mae'r rôl yn cynnwys teithio'n rheolaidd ledled Cymru a'r DU. Bydd angen gweithio rhywfaint gyda'r nos ac ar benwythnosau, gyda threuliau dros nos o bryd i'w gilydd.

Beth fyddwch yn cynnig

Fel graddedig o Brifysgol Metropolitan Caerdydd sydd wedi cwblhau eich gradd yn ystod y tair blynedd diwethaf, byddwch yn angerddol am helpu eraill i gymryd eu cam nesaf i addysg uwch.

Byddwch yn hyderus wrth gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd, yn gallu rhannu eich profiadau mewn ffordd ddiddorol, ac yn gyfforddus wrth gynrychioli Met Caerdydd mewn amrywiaeth o leoliadau.

Bydd Gennych Hefyd

  • Gwybodaeth am y broses ymgeisio Addysg Uwch a llwybrau tuag at Addysg Uwch.
  • Gwybodaeth am bortffolio israddedig, ôl-raddedig a chyrsiau byr Met Caerdydd.
  • Profiad o gyflwyno cyflwyniadau i grwpiau o wahanol feintiau.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser cryf.
  • Y gallu i weithio'n annibynnol a defnyddio eich menter eich hun.
  • Trwydded yrru lawn.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Rydym yn Brifysgol sy'n seiliedig ar werthoedd. Rydym yn falch o'n diwylliant, ac yno i'n pobl. Ein hysbryd cymunedol yw'r edau aur sy'n sail i'n gwerthoedd a'n hymddygiadau. Rydym yn cefnogi ac yn croesawu cynhwysiant sy'n galluogi pawb i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u bod yn gallu perfformio ar eu gorau. Drwy ymuno â'n Prifysgol, byddwch mewn amgylchedd unigryw lle mae cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gael yn rhydd, gan eich cefnogi gyda datblygiad eich gyrfa.

  • Gwyliau blynyddol o 25 diwrnod, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 1 flwyddyn o wasanaeth, ynghyd â 12 diwrnod gŵyl banc / diwrnodau consesiynol.
  • Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael.
  • Polisïau rhagorol sy'n gyfeillgar i deuluoedd - cymerwch olwg ar ein tudalen Hwb Polisi.
  • Cyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau gyda mynediad at gyfleusterau llyfrgell a gwasanaethau digidol.
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd rhagorol gydag aelodaeth â chymhorthdal.
  • Mynediad am ddim i deuluoedd i Health Assured.

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am y rôl cysylltwch â Katie Marshall-Gamstonm, Rheolwr Recriwtio Myfyrwyr drwy e-bostio KMarshall-Gamston@cardiffmet.ac.uk.

Defnyddir manyleb y person ar gyfer llunio rhestr fer; defnyddiwch hon wrth ysgrifennu eich cais. Gallwch ddod o hyd i awgrymiadau a chynghorion defnyddiol drwy ymweld â'n Canllawiau Cais.

Dyddiad Cau: 22 Jul 2026

Ysgol/Uned: Proffesiynol a Chymorth

Cyflog: £29,588 to £34,610 y flwyddyn

Cyfnod tymor penodol 3 flwyddyn

#J-18808-Ljbffr

Cynorthwyydd Recriwtio Myfyrwyr Graddedig (2526576) in Cardiff employer: Cardiff Metropolitan University

Cardiff Metropolitan University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that fosters academic excellence and innovation in the field of Forensic Psychology. With a strong commitment to employee development, staff are encouraged to engage in continuous professional growth while enjoying competitive salaries and a supportive environment that values collaboration and research leadership.

C

Contact Details:

Cardiff Metropolitan University Recruitment Team