Ynglŷn â’r Gwasanaeth
Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd uchaf ei sgiliau ac sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ond hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang.
Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol wedi ei achredu gan Lexcel, gyda chyfleoedd rhagorol ar gyfer ymarferydd cyfreithiol gweithgar, llawn cymhelliant, sy’n gallu addasu. Ar hyn o bryd, mae’r swydd wedi ei lleoli yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a chyfleusterau parcio da. Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy'n gwneud gwaith caffael, ymgyfreitha, eiddo, cynllunio, llywodraethiant, gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a'n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysfawr i'n cleientiaid.
Mae'r gwasanaeth bellach yn gweithredu model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio'n hyblyg gartref neu o swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system rheoli achosion fodern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein, a thîm cymorth busnes bach. Mae gennym hefyd 3 swydd cyfreithiwr dan hyfforddiant a ddefnyddiwn er mwyn helpu i dyfu ein gweithlu ein hunain.
Ynglŷn â'r Swydd
Mae cyfle gwych wedi codi i Uwch Swyddog y Gyfraith ymuno â’n tîm i ymgymryd â gwaith sy’n ymwneud â Chyfraith Priffyrdd a Thraffig Ffyrdd.
Mae'r gwaith yn cynnwys cynghori ar wneud gorchmynion rheoli traffig ffyrdd a chytundebau dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (gan gynnwys yr holl faterion cysylltiedig).
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cynorthwyo’r tîm cyfreithiol Caffael a Phrosiectau, sy’n rhoi cyngor ar ystod eang o faterion cyfreithiol di-gynnen.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am ymgeisydd o safon uchel â phrofiad perthnasol sy'n gallu ysgwyddo llwyth gwaith amrywiol a heriol ac sy’n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol mewnol llwyddiannus. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu blaenoriaethu gwaith a chwrdd â therfynau amser, yn aml o dan bwysau, wrth gynnal perthynas dda gydag eraill.
Rhaid i chi fod yn Aelod o Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (neu feddu ar gymwysterau cyfatebol neu uwch)
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gennym system rheoli achosion fodern, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach. Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gweithio hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae polisi Amser Hyblyg y Cyngor yn berthnasol i'r swydd ac mae patrymau gweithio hyblyg ar gael, yn amodol ar ddiwallu anghenion ein cleientiaid ac ystyried trefniadau gwaith aelodau'r tîm presennol. Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio ar fyr rybudd yn unol â gofynion y swydd hon.
Mae'r swydd wag hon yn swydd dros dro am 18.5 awr/ 2 1/2 diwrnod am gyfnod cychwynnol o 6 mis a allai gael ei ymestyn.
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â'r Rheolwr Gweithredol (Caffael a Phrosiectau) Sian Humphries ar shumphries@caerdydd.gov.uk
Gellir gwahodd yr ymgeiswyr hynny sy'n llwyddiannus ar y cam ffurflen gais i gyfweliad/prawf a bydd y cyfweliad hwn yn un wyneb yn wyneb. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â hyn, cysylltwch â Sian Humphries am drafodaeth.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.
Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar gael ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Uwch Swyddog Cyfreithiol (Cyfraith Priffyrdd a Thraffig Ffyrdd) (swydd dros dro rhan-amser) employer: Cardiff Council
Join us at Cardiff Council, where we are dedicated to providing a supportive and nurturing environment for both our staff and the children in our care. As a Deputy Residential Manager in Doncaster, you will benefit from a competitive salary of £39,890, a structured work rota that promotes work-life balance, and ample opportunities for professional development within a collaborative team. Our commitment to high-quality care and positive outcomes for children ensures that you will find your role both meaningful and rewarding.