Ynglŷn â’r Gwasanaeth
Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Swyddog Ymwybyddiaeth Gyhoeddus brwdfrydig i arwain yn bennaf ar ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn annog trigolion Dinas Caerdydd i gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan.
Ynglŷn â’r Swydd
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio a chynnal Strategaeth Ymgysylltu a Chynllun Cofrestru yn ogystal â nodi grwpiau heb ddigon o bobl wedi’u cofrestru i gynhyrchu ymgyrchoedd wedi'u targedu. Byddwch yn rhwydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol i hyrwyddo cofrestru, opsiynau pleidleisio ac etholiadau.
Amdanoch Chi
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o weithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol a dawn i ddatblygu cysylltiadau â rhanddeiliaid yn y gymuned i annog mwy o gyfranogiad democrataidd. Dylech fod yn gyfarwydd â gwaith gwasanaethau etholiadol ac etholiadau.
Fel rhan o’r swydd bydd angen gweithio oriau estynedig ac ar benwythnosau a gwyliau banc yn ystod cyfnodau sy’n arwain at etholiadau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gwaith hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae’r swydd ar agor i unigolion sy’n dymuno cael patrymau gwaith hyblyg, yn amodol ar fodloni anghenion ein cleientiaid a dangos ystyriaeth i drefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu ar yr amod bod gweithiwr / ymgeisydd cymwys arall sydd â phrofiad addas yn dymuno ei rhannu. Nid oes angen i ymgeisydd blaenorol ailymgeisio.
Am drafodaeth anffurfiol ar rôl y swydd cysylltwch â Rebecca Light, Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Etholiadol, ar rebecca.light@caerdydd.gov.uk.
Oherwydd y trefniadau gwaith interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio nac derbyn ffurflenni ceisiadau drwy'r post.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI a adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth a roddwch yn gywir o ran ffeithiau, yn wir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau na gwaith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVau. Wrth gwblhau'r adran o wybodaeth ategol yn eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y canlynol sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen i chi ei darllen i gwblhau eich cais:-
- Canllawiau Cais
- Cael swyddi gyda ni
- Fframwaith Cydnabyddiaeth Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-ddedfryswyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Swyddog Gwasanaethau Etholiadol - Arweinydd Ymwybyddiaeth Gyhoeddus employer: Cardiff Council
Join us at Cardiff Council, where we are dedicated to providing a supportive and nurturing environment for both our staff and the children in our care. As a Deputy Residential Manager in Doncaster, you will benefit from a competitive salary of £39,890, a structured work rota that promotes work-life balance, and ample opportunities for professional development within a collaborative team. Our commitment to high-quality care and positive outcomes for children ensures that you will find your role both meaningful and rewarding.