Ynglŷn â’r Gwasanaeth
Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd uchaf ei sgiliau ac sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ond hefyd yn cynnig mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang.
Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf a mwyaf medrus ym Mhrydain. Rydym am i Gaerdydd gael ei hadnabod fel un o’r Cynghorau gorau yn y DU. Fel rhan o'r Gyfarwyddiaeth Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol yn Neuadd y Sir, mae'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi Aelodau Etholedig, Annibynnol a Chyfetholedig y Cyngor ac yn cyfrannu at brosesau llywodraethu a gwneud penderfyniadau’r Cyngor.
Mae'r gwasanaeth erbyn hyn yn dilyn model gweithio hybrid sy'n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o’u cartrefi neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth.
Ynglŷn â'r Swydd
Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am unigolyn talentog i ymuno â'r tîm Gwasanaethau Pwyllgorau ac Aelodau uchel eu parch. Bydd y rôl hon yn ymwneud yn bennaf â chefnogi Aelodau Etholedig yn eu rôl fel cynghorydd ward a chysylltu â gwasanaethau ar draws y cyngor i ddarparu canlyniadau cadarnhaol i ddinasyddion Caerdydd. Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig, sydd â phrofiad yn y maes gweinyddu gyda llywodraeth leol, ac sy’n awyddus i ymuno â’n tîm a gweithio gydag Aelodau Etholedig.
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth briodol, a bydd yn ymgymryd ag ystod o swyddogaethau gweinyddol, gan gynnwys defnyddio ystod o systemau Technoleg Gwybodaeth (TG) i gefnogi Aelodau Etholedig. Dylai ymgeiswyr allu dangos lefel uchel o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar; sgiliau rhyngbersonol a diplomyddol da, ynghyd ag ymwybyddiaeth o gyd-destun gwleidyddol y Cyngor. Mae’r gallu i flaenoriaethu gwaith a gweithio i derfynau amser, yn aml dan bwysau, sicrhau gofal cwsmeriaid da, a gweithio fel rhan o dîm yn hanfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae hwn yn amgylchedd gwaith heriol ond gwerth chweil, gyda chyfle i adeiladu ar berfformiad a gwelliant, gan weithio ochr yn ochr â phobl sy’n frwd dros sicrhau rhagoriaeth ar ran ein cymunedau lleol.
Er bod y rôl yn heriol, mae ein polisïau gweithio hyblyg yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Mae’r swydd ar agor i unigolion sy’n dymuno cael patrymau gwaith hyblyg a/neu weithio gartref (rhan o’r amser) yn amodol ar fodloni anghenion y gwasanaeth a dangos ystyriaeth i drefniadau gwaith aelodau presennol y tîm.
Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu ar yr amod bod gweithiwr/ ymgeisydd cymwys arall sydd â phrofiad addas yn dymuno ei rhannu
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Kate Rees Rheolwr y Gwasanaethau Pwyllgorau ac Aelodau drwy e-bostio KRees@caerdydd.gov.uk.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Sylwch nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar gael ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:-
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Swyddog Cymorth Gwasanaethau Aelodau employer: Cardiff Council
Join us at Cardiff Council, where we are dedicated to providing a supportive and nurturing environment for both our staff and the children in our care. As a Deputy Residential Manager in Doncaster, you will benefit from a competitive salary of £39,890, a structured work rota that promotes work-life balance, and ample opportunities for professional development within a collaborative team. Our commitment to high-quality care and positive outcomes for children ensures that you will find your role both meaningful and rewarding.