Clerc-Teipydd / Defnyddiwr Prosesydd Geiriau (Cymorth Gweithredol)

Clerc-Teipydd / Defnyddiwr Prosesydd Geiriau (Cymorth Gweithredol)

Full-Time On-site
C

Am Y Gwasanaeth

Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd, y mae gan ein preswylwyr gysylltiad agos â nhw, yn llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas.

Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y rôl bwysig y maent yn ei chwarae wrth ymateb i’r agendâu hinsawdd, gweithgaredd corfforol ac iechyd ac mae wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o fuddsoddi a datblygu cynaliadwy.

Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys 513 o barciau a mannau gwyrdd unigol, 20 ohonynt â statws Baner Werdd, 47 yn safleoedd coetir, 28 yn safleoedd rhandiroedd statudol, 171 yn gyfleusterau chwarae a 151 yn gaeau / arwynebau chwaraeon a’n Stablau Marchogaeth unigryw.

Am Y Swydd

Gan weithio i un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, mae cyfle rheoli cyffrous yn bodoli i unigolyn ymroddgar a phrofiadol ymuno â grŵp llawn cymhelliant ac angerddol o swyddogion sy'n gweithio o fewn y Gwasanaeth Parciau a Harbwr.

Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Tîm Cymorth Gweithredol ac yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i sicrhau bod pob ymholiad yn cael ei ateb ar y pwynt cyswllt cychwynnol a bod y lefel uchaf o ofal cwsmeriaid yn cael ei ddarparu.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ymdrin â galwadau ffôn a gohebiaeth gan aelodau o'r cyhoedd, cyflenwyr allanol, a swyddogion ledled yr Awdurdod.

Beth Rydym Ei Eisiau Gennych

Bydd gennych brofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, y gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm, a bydd gennych agwedd hyblyg. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm prysur sy'n darparu derbyn a chymorth gweinyddol o fewn y Gwasanaethau Parciau.

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys pob agwedd ar gaffael nwyddau a gwasanaethau ac adeiladu perthynas effeithiol gyda thimau arbenigol gan gynnwys Caffael a Chyllid. Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda chwsmeriaid mewnol ac allanol yn ysgrifenedig a dros y ffôn, a byddwch yn gyfrifol am fonitro mewnflychau e-bost ac am ddelio gydag archebion.

Bydd gennych sgiliau TG rhagorol gyda gwybodaeth ymarferol gadarn am yr holl becynnau Microsoft Office. Byddwch yn weithiwr tîm hyblyg gyda phrofiad o weithio mewn swyddfa brysur a delio â'r cyhoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch ag Anthony Thomas (Rheolwr Gweithrediadau Busnes a Digwyddiadau) drwy e-bostio parciau@caerdydd.gov.uk

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw’n eiddo i chi.

Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:

Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-

Gwybodaeth Ychwanegol:-

Clerc-Teipydd / Defnyddiwr Prosesydd Geiriau (Cymorth Gweithredol) employer: Cardiff Council

Join us at Cardiff Council, where we are dedicated to providing a supportive and nurturing environment for both our staff and the children in our care. As a Deputy Residential Manager in Doncaster, you will benefit from a competitive salary of £39,890, a structured work rota that promotes work-life balance, and ample opportunities for professional development within a collaborative team. Our commitment to high-quality care and positive outcomes for children ensures that you will find your role both meaningful and rewarding.

C

Contact Details:

Cardiff Council Recruitment Team