SOLICITOR (Procurement) in Cardiff

SOLICITOR (Procurement) in Cardiff

Cardiff Full-Time No working from home possible
C

Cyfreithiwr (Caffael a Chontractau)

Ynglŷn â'r Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae Caerdydd, fel prifddinas Cymru, yn cynnig y profiad o weithio yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ond hefyd yn cynnig mynediad rhwydd i arfordir a chefn gwlad gwych de Cymru, a gydnabyddir yn fyd-eang.

Mae gan Gyngor Caerdydd Wasanaeth Cyfreithiol mewnol sydd ag achrediad Lexcel gyda chyfleoedd gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, brwdfrydig a hyblyg. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth da a chyfleusterau parcio. Mae gennym gyfreithwyr arbenigol sy’n ymgymryd â gwaith caffael, ymgyfreitha, eiddo, cynllunio, llywodraethiant, gwaith gofal plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, a’n nod yw darparu gwasanaeth rhagorol a chynhwysol i’n cleientiaid.

Mae’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn dilyn model gweithio hybrid sy’n galluogi gweithwyr i weithio’n hyblyg o’u cartrefi neu mewn swyddfa, yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth. Mae gennym system fodern i reoli achosion, llyfrgell gyfreithiol ar-lein a thîm cymorth busnes bach. Mae gennym hefyd 3 swydd cyfreithiwr dan hyfforddiant a ddefnyddiwn i helpu i dyfu ein gweithlu ein hunain. Ar ôl cymhwyso mae rhai hyfforddeion wedi parhau i weithio yn ein hadran ac mae llawer o’n cyfreithwyr wedi darparu gwasanaeth dros gyfnod hir gyda ni.

Ynglŷn â'r Swydd

Mae swydd wag wedi codi lle rydym yn awyddus i recriwtio Cyfreithiwr/Bargyfreithiwr o safon uchel, sy’n ddeinamig a chymwys, sydd â phrofiad perthnasol i ymgymryd ag ystod eang o waith cyfreithiol yn ymwneud â Chyfraith Caffael a Chontractau. Mae'r llwyth gwaith yn hynod amrywiol i gynnwys darparu cyngor cyfreithiol i'n hadran cleient ar lawer o wahanol agweddau ar gyfraith caffael a chontractau (gan gynnwys caffael cymhleth a gwerth uchel/contractau adeiladu, a threfniadau gweithio partneriaeth/cydweithredol) yn ogystal â materion cyfraith Llywodraeth Leol annadleuol eraill; drafftio dogfennaeth gaffael, contractau, gorchmynion statudol a dogfennaeth arall; a chyflawni unrhyw waith cyfreithiol arall sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r Gwasanaethau Cyfreithiol.

Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster gradd, bod wedi ei dderbyn fel Cyfreithiwr neu wedi ei alw i’r bar, a bydd yn gallu gweithio fel rhan o dîm.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd y sgiliau a'r profiad yn y maes cyfreithiol hwn.

Disgwyliwn i’r unigolyn a benodir gymryd cyfrifoldeb personol am sicrhau rhagoriaeth, gweithio gydag eraill i gyflawni’r canlyniadau gorau posib, ymateb yn gadarnhaol i newid a chyfleoedd newydd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael a meddwl a gweithredu gyda golwg ar hyrwyddo buddiannau’r Cyngor.

#J-18808-Ljbffr
C

Contact Details:

Cardiff Council Recruitment Team