Beddau Community Home, 11 Hil View, Beddau, Pontypridd, CF38 2DS
Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos, Rhan Amser – 22.30 awr
Cartref Cymuned Beddau, 11 Trem y Bryn, Beddau, Pontypridd, CF38 2DS
Ydych chi'n awyddus i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifainc?
Ydych chi'n unigolyn gweithgar a chydnerth sydd â'r gallu i ymgysylltu â phlant a phobl ifainc a'u cefnogi nhw'n emosiynol?
Mae cyfle wedi codi i benodi Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos yng Nghartref Cymuned Beddau. Mae sifftiau nos fel arfer yn cynnwys gweithio rhwng 10.30pm a 7.30am. Bydd cyflog ychwanegol ar gael ar gyfer sifftiau nos.
A chithau'n Ymarferydd Gofal Plant Preswyl Dros Nos byddwch chi'n rhan o garfan ofalgar, sy’n darparu cartref diogel, meithringar i unigolyn ifanc, dan arweiniad a chefnogaeth y Rheolwr Cofrestredig, ac Uwch Aelodau o Staff profiadol.
Byddwch chi'n ymroi i wella bywydau plant sydd ag anghenion cymhleth a rhai sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod.
Byddwch chi'n ymrwymo i ddeall profiadau plant a phobl ifainc ac yn dangos cydymdeimlad yn eich dull o weithio gyda'r unigolion yma a'u cael nhw'n barod i fynd i'r gwely.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol a bydd disgwyl i chi fod yn greadigol ac ymgysylltu'n weithredol wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifainc a darparu cymorth a chefnogaeth iddyn nhw. Byddwch chi'n cael eich cefnogi ac yn derbyn hyfforddiant i weithio mewn amgylchedd therapiwtig gan fanteisio ar y Model Adfer Trawma.
Byddwch chi'n darparu cymorth emosiynol, corfforol a phersonol sy'n caniatáu i bobl ifainc gyflawni eu potensial llawn. Weithiau, mewn sefyllfaoedd heriol, bydd gofyn i chi ymateb i broblemau tu hwnt i'r cartref. Mae'r gallu i deithio'n annibynnol yn hanfodol ar gyfer y swydd yma.
Bydd rhan sylweddol o'ch swydd chi'n cynnwys cefnogi unigolion drwy'r nos. Yn achlysurol, bydd gofyn i chi gysylltu â gwasanaethau megis yr Heddlu, y Garfan Iechyd a'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, gan fynd i'r afael â sefyllfaoedd brys. Bydd aelod o staff arall yn y cartref ar gael i’ch helpu chi yn ystod y sefyllfaoedd yma. Unwaith mae'r plant a'r bobl ifainc wedi setlo, bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi'r cartref ar gyfer y diwrnod dilynol. Bydd hyn yn cynnwys tasgau cyffredinol yn y cartref megis glanhau, smwddio neu goginio.
I lwyddo yn y rôl yma rhaid i chi fod yn unigolyn angerddol ac amyneddgar a rhaid ichi ymrwymo i'ch cydweithwyr ac i safonau proffesiynol y swydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda theuluoedd a phobl broffesiynol i sicrhau bod y gofal a'r cymorth wedi'u haddasu i weddu i anghenion unigol y plant a phobl ifainc.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr arddangos:
- Agwedd gadarnhaol a chydnerth
- Ymrwymiad i ddarparu amgylcheddau diogel a gofalgar i blant a phobl ifainc sy'n eu hannog nhw i ddysgu ac i ddatblygu
- Cydymdeimlad, empathi a brwdfrydedd dros wneud penderfyniadau personol
- Y gallu i feithrin perthnasoedd cryfion
- Brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu personol
- Gallu i weithio'n hyblyg
Bydd angen i chi fod yn barod i weithio sifftiau, gan gynnwys ar wyliau'r banc, ar benwythnosau a dyletswyddau aros dros nos. Efallai bydd gofyn i chi weithio mewn lleoliadau preswyl eraill yn achlysurol i gynorthwyo ein cartrefi eraill yn yr awdurdod lleol, er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi feddu ar, neu fod yn barod i weithio tuag at, Ddiploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) neu gymhwyster NVQ Lefel 3 (Plant a Phobl Ifainc). Byddwch chi'n cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai o'ch penodiad neu yn dilyn cyflawni'r Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol yn llwyddiannus.
Rydyn ni'n cydnabod bod maes Gofal Cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol er mwyn i'n staff cynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn hyfforddiant llawn a'r gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni'r rôl. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd ddim yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn derbyn cefnogaeth i gyflawni Diploma FfCCh Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifainc) o fewn 2 flynedd o'u penodi.
Bydd modd i weithwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd fanteisio ar ystod eang o fuddion staff sy'n cynnwys:
- 26 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
- Cynllun Beicio i'r Gwaith
- Cerdyn gostyngiadau i staff – Cerdyn Vivup
- Mynediad at ein Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheini a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Owing to the numerous applications submitted, we can’t identify individual candidates. Therefore, if you have not heard from us within four weeks of the closing date, consider your application unsuccessful at this time. Thank you for your interest and for applying for this position.
To support the Council's voluntary commitment to wildlife, those appointed must confirm that applicants declaring themselves as members of the wildlife group, including those who have left the group, warrant and warrant, have pending yes are eligible and are offered a counselling.
Unigolion â Phrofiad o fod mewn Gofal – Cynllun Gwarantu Cyfweliad
As part of the Council's corporate role, it is committed to supporting individuals with post experience. This includes those who have spent time in care at any time in their life. The Council encourages applications from individuals who have experience of care to enable them to access employment, education, experience and volunteering opportunities.
The Council will guarantee counselling for individuals with care experience who wish to participate in the programme and who meet the essential criteria for the role.
#J-18808-Ljbffr
Night Residential Child Care Practitioner in Pontypridd employer: Cardiff Capital
Rhondda Cynon Taf Council is an exceptional employer, dedicated to fostering a supportive and collaborative work environment for its staff. With a strong commitment to professional development, employees in the Disabled Children's Services benefit from ongoing training and growth opportunities, ensuring they can make a meaningful impact in the lives of children and families. The council's focus on child-centred, strengths-based practice creates a rewarding atmosphere where social workers can thrive and contribute to the community.