Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales
Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg)

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales

Wales Full-Time 39500 - 40500 £ / year (est.) No home office possible
Capita Health Assessment Advisory Service

At a Glance

  • Tasks: Conduct health assessments and write reports to support disability benefit decisions.
  • Company: Capita HAAS, a leader in health assessment services.
  • Benefits: Competitive salary, flexible hours, and generous holiday allowance.
  • Other info: Hybrid role with opportunities for personal development and career growth.
  • Why this job: Make a real difference in people's lives while developing your professional skills.
  • Qualifications: Experience as a nurse or therapist with strong communication skills.

The predicted salary is between 39500 - 40500 £ per year.

Darganfyddwch fath newydd o yrfa ym maes gofal iechyd fel arbenigwr swyddogaethol. Ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn chwilio am newid? Os ydych chi’n nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg, gallech ddefnyddio eich sgiliau mewn ffordd wahanol fel arbenigwr swyddogaethol. Yng Ngwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd Capita (HAAS), rydym yn darparu asesiadau diduedd a chynhwysfawr ar gyfer hawlwyr budd-daliadau anabledd y Llywodraeth (Taliad Annibyniaeth Personol – PIP), dros y ffôn, drwy alwad fideo neu wyneb yn wyneb, naill ai mewn canolfannau asesu neu yng nghartrefi’r hawlwyr.

Mae ein harbenigwyr swyddogaethol yn ysgrifennu adroddiadau sy’n helpu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch iechyd a gofal unigolion. Efallai eich bod yn nyrs ar hyn o bryd ac yn awyddus i symud i ffwrdd o ddarparu gofal uniongyrchol – mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau asesu a defnyddio eich gwybodaeth broffesiynol i wneud argymhellion clinigol pwysig. Neu efallai eich bod yn therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg sydd am ddysgu gwerthuso sefyllfaoedd mewn ffordd a lleoliad gwahanol. Rydym yn chwilio am unigolion tosturiol sydd â’r profiad i ddeall cyflwr iechyd neu anabledd hawlwyr a’r effaith ar eu bywydau bob dydd. Mae’r rôl hon yn wahanol i broffesiynau gofal iechyd eraill, a dyna pam rydym yn cymryd hyfforddiant a datblygiad o ddifrif. Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr gyda amser wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu a datblygu personol.

Os ydych chi’n chwilio am newid, gan gynnwys oriau gwaith mwy rheolaidd, cyflog cystadleuol ac yn barod i ehangu eich sgiliau a’ch profiad, gallai hon fod y rôl i chi.

Eich Prif Gyfrifoldebau

  • Cynnal adolygiadau cychwynnol, asesiadau ar bapur, wyneb yn wyneb, drwy fideo neu dros y ffôn i werthuso sut mae cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar fywyd bob dydd hawlwyr
  • Arsylwi a chofnodi gallu unigolyn i gyflawni gweithgareddau
  • Dadansoddi a dehongli gwybodaeth glinigol a thystiolaeth ategol
  • Creu un adroddiad cynhwysfawr (3,000–4,000 gair) fesul hawlydd, hyd at uchafswm o dri y dydd
  • Sicrhau bod digon o fanylder, tystiolaeth a chyfiawnhad i gefnogi’r DWP wrth wneud penderfyniadau
  • Datblygu eich gwybodaeth glinigol a dysgu am gyflyrau iechyd llai cyfarwydd
  • Mae hon yn rôl hybrid, gyda disgwyliad y byddwch yn gweithio gartref a hefyd yn cael eich neilltuo i weithio o’ch canolfan asesu agosaf ar sail rota i gynnal asesiadau wyneb yn wyneb

Qualifications

  • O leiaf blwyddyn o brofiad ôl‑gofrestru fel nyrs (RMN, RNLD, RGN), therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu barafeddyg
  • Cofrestriad llawn gyda’r corff rheoleiddio perthnasol yn y DU (NMC, HCPC neu debyg), heb gyfyngiadau nac amodau, a PIN dilys
  • Sgiliau arsylwi a chyfathrebu rhagorol, gan allu gwrando, empathïo a holi’n fanwl
  • Y gallu i weithio’n gyflym, cynhyrchu adroddiadau’n brydlon a chyrraedd targedau
  • Profiad cadarn o ddefnyddio TG a Microsoft Office, gan gynnwys mynediad o bell at systemau
  • Trwydded yrru ddilys gyfredol neu fynediad at ddull cludo i fynychu’r ganolfan asesu agosaf
  • Mae sgiliau Cymraeg (llafar a/neu ysgrifenedig) yn ddymunol er mwyn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau fetio Safon Diogelwch Personél Sylfaenol y Llywodraeth yn llwyddiannus. Dyma’r safon gydnabyddedig ar gyfer sgrinio cyn‑cyflogaeth unigolion sydd â mynediad at asedau’r Llywodraeth. Diffinnir y rôl hon fel gweithgaredd rheoledig yn ymwneud â phlant neu oedolion bregus o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Bregus 2006, ac mae wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Byddwch yn cael gwiriad troseddol uwch, a fydd yn dangos collfarnau a dreuliwyd a heb eu treulio.

Additional Information

Byddwch wedi’ch contractio i weithio 7.5 awr y dydd, 37.5 awr yr wythnos (llawn amser). Gellir cytuno ar eich oriau gwaith penodol gyda’ch rheolwr llinell ar ôl hyfforddiant. Bydd patrymau gwaith rhwng 8.00yb a 8.00yh.

Am Capita HAAS

Dyfarnwyd dau gontract i Capita i ddarparu asesiadau’r Gwasanaeth Ymgynghorol Asesiad Iechyd (HAAS) yn y Canolbarth a Chymru ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), ac yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer yr Adran Cymunedau (DfC). Mae HAAS yn wasanaeth newydd sy’n dod â gwasanaethau asesu presennol ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd o dan un darparwr mewn pob rhanbarth daearyddol, gan wneud mynediad at gymorth yn symlach ac yn haws i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Bydd Capita yn darparu asesiadau ar gyfer PIP, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a Chredyd Cynhwysol (UC), ynghyd â nifer o fudd-daliadau arbenigol gan gynnwys Lwfans Byw i’r Anabl i Blant (DLA) ac asesiadau Veterans UK. Mae Capita wedi bod yn darparu asesiadau PIP yn y Canolbarth a Chymru ers 2013, ac yng Ngogledd Iwerddon ers 2016.

Beth sydd ynddo i chi?

  • Cyflog cychwynnol cystadleuol o £39,500, yn codi i £40,500 ar ôl cael cymeradwyaeth gan y DWP
  • Cymhwyster ar gyfer cynllun bonws yn seiliedig ar ansawdd a pherfformiad
  • 25 diwrnod o wyliau (yn codi i 27 ar ôl 5 mlynedd) gyda’r opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol
  • Ad-dalu ffi gofrestru proffesiynol flynyddol a chefnogaeth ad-ddilysu
  • Cyfle i gymryd diwrnod â thâl i wirfoddoli gyda’n partneriaid elusennol neu achos o’ch dewis
  • Pensiwn cyfraniad cyfatebol y cwmni, yswiriant bywyd, cynllun beicio i’r gwaith, 15 wythnos o absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir â thâl llawn, a thâl tadolaeth o bythefnos
  • Mynediad at fuddion gostyngol ar gyfer manwerthu, iechyd a lles, teithio a thechnoleg
  • Cynllun gwobrwyo argymell ffrind
  • Mynediad at ap Headspace i chi a hyd at 5 aelod o’r teulu neu ffrindiau
  • Mynediad at Rwydweithiau Gweithwyr sy’n cynrychioli pob agwedd ar amrywiaeth ac yn hyrwyddo amgylchedd gwaith cynhwysol
  • Bydd gennych gyfle i ddilyn eich llwybr gyrfa eich hun o fewn Capita, gan ymuno â rhwydwaith o weithwyr profiadol, arloesol ac ymroddedig ar draws sawl disgyblaeth a sector.

Beth i’w wneud nesaf

Dewiswch “Mae gen i Ddiddordeb” i gwblhau ein cais byr er mwyn i ni gael gwybod mwy amdanoch. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn ystyried pob ymgeisydd cymwys waeth beth fo hunaniaeth neu fynegiant rhywedd, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, crefydd neu gred, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd neu unrhyw nodwedd warchodedig arall. Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn sicrhau bod nifer deg a chymesur o ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol yn cael cynnig cyfweliad. Am ragor o wybodaeth neu i drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â: [email protected] neu 0300 303 8544.

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales employer: Capita Health Assessment Advisory Service

Capita HAAS is an exceptional employer, offering a unique opportunity for healthcare professionals to transition into a rewarding role as a Functional Assessor. With a strong commitment to employee development, competitive salaries, and a supportive work culture that values diversity and inclusion, you will benefit from comprehensive training and flexible working arrangements. Located in the heart of the Midlands and Wales, this role not only allows you to utilise your clinical expertise but also provides a pathway for personal and professional growth within a dynamic team dedicated to making a difference in the lives of vulnerable individuals.
Capita Health Assessment Advisory Service

Contact Detail:

Capita Health Assessment Advisory Service Recruiting Team

StudySmarter Expert Advice 🤫

We think this is how you could land Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales

Tip Number 1

Get your networking game on! Reach out to former colleagues, friends, or even connections on LinkedIn. Let them know you’re looking for a role like the Arbenigwr Swyddogaethol – PIP and ask if they know of any openings or can refer you.

Tip Number 2

Practice makes perfect! Before your interview, run through common questions with a friend or in front of the mirror. Focus on how your experience as a nyrs or therapydd galwedigaethol can translate into the skills needed for this role.

Tip Number 3

Show off your passion! During interviews, share why you want to transition into this role and how your background in healthcare gives you a unique perspective. Employers love to see genuine enthusiasm!

Tip Number 4

Don’t forget to apply through our website! It’s the best way to ensure your application gets seen by the right people. Plus, it shows you’re serious about joining our team at Capita HAAS.

We think you need these skills to ace Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales

Clinical Assessment Skills
Report Writing
Communication Skills
Empathy
Observation Skills
Data Analysis
Time Management
Microsoft Office Proficiency
Problem-Solving Skills
Understanding of Health Conditions
Ability to Work Remotely
Welsh Language Skills (verbal and/or written)
Adaptability

Some tips for your application 🫡

Be Yourself: When you're writing your application, let your personality shine through! We want to see the real you, so don’t be afraid to show your passion for healthcare and how your experience makes you a great fit for the role.

Tailor Your Application: Make sure to customise your application for this specific role. Highlight your relevant skills and experiences that align with the job description. We love seeing how your background as a nurse or therapist can translate into being an amazing occupational specialist!

Keep It Clear and Concise: While we appreciate detail, clarity is key! Make sure your application is easy to read and straight to the point. Use bullet points where possible to break up information and keep it engaging.

Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our website! It’s the best way for us to receive your details and ensures you’re considered for the role. Plus, it’s super easy to do!

How to prepare for a job interview at Capita Health Assessment Advisory Service

Know Your Stuff

Make sure you brush up on your clinical knowledge and understanding of health conditions. Familiarise yourself with the types of assessments you'll be conducting and the specific needs of individuals with disabilities. This will help you answer questions confidently and demonstrate your expertise.

Practice Makes Perfect

Conduct mock interviews with a friend or mentor to get comfortable with common interview questions. Focus on articulating your experience in healthcare and how it relates to the role of an occupational specialist. The more you practice, the more natural it will feel during the actual interview.

Show Your Empathy

As an occupational specialist, empathy is key. Be prepared to discuss how you've demonstrated compassion in your previous roles. Share specific examples of how you've supported individuals in understanding their health conditions and how that has impacted their daily lives.

Ask Thoughtful Questions

At the end of the interview, don’t forget to ask insightful questions about the role and the company. This shows your genuine interest and helps you gauge if the position is the right fit for you. Consider asking about the training process or how the team collaborates on assessments.

Arbenigwr Swyddogaethol – PIP (Siaradwyr Cymraeg) in Wales
Capita Health Assessment Advisory Service
Location: Wales

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

>