Y Rôl: Prif ddiben y rôl yw darparu cymorth uniongyrchol i’r Pennaeth Ymchwil er mwyn cyflawni amrywiaeth o brosiectau ymchwil canser a chymryd cyfrifoldeb am oruchwylio ac adrodd ar gynnydd ysgoloriaethau PhD a Grantiau Arloesi a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn arwain a gweithredu dulliau o werthuso tystiolaeth a mesur effaith ymchwil a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru at ddiben cyfathrebu mewnol ac allanol yn gysylltiedig ag iechyd.
Cyfrifoldebau allweddol:
- Cynorthwyo’r Pennaeth Ymchwil â rheoli a chyflawni portffolio ymchwil a phrosiectau cysylltiedig Ymchwil Canser Cymru.
- Ceisiadau am grantiau: Helpu i reoli’r prosesau dewis ac asesu i sicrhau detholiad o adolygiadau ansawdd uchel gan gymheiriaid o bob cais am grant.
- Cynorthwyo’r Pennaeth Ymchwil a’r pwyllgor gwyddonol i gynnal asesiad mewnol cychwynnol o geisiadau am grantiau a rheoli a datblygu rhwydwaith o aseswyr allanol i gyflawni’r rhestr fer.
- Cynnal cyfweliadau ac ymweliadau â safleoedd yr holl ddyfarniadau ymchwil byw, lle bo angen, yn rhan o brosesau monitro gweithgar a llywodraethu ymchwil da.
- Paratoi a rhannu diweddariadau ar gynnydd a gwersi allweddol â’r pwyllgor gwyddonol, y Bwrdd Ymddiriedolwyr, ac is-bwyllgorau ac adrannau eraill Ymchwil Canser Cymru, fel y bo angen.
- Cymryd cofnodion a gweinyddu cyfarfodydd y pwyllgor gwyddonol.
- Cynorthwyo’r Pennaeth Ymchwil a’r pwyllgor gwyddonol i weithredu Strategaeth Ymchwil Ymchwil Canser Cymru a gweithio tuag at ddatblygu fframweithiau gweithredu cadarnach ar gyfer comisiynu a rheoli ymchwil.
- Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu PPI ym mhortffolio ymchwil Ymchwil Canser Cymru, lle bo’n briodol.
- Arwain y gwaith o gipio, dadansoddi ac adrodd ar ddeilliannau ac effaith ymchwil a ariannwyd gan Ymchwil Canser Cymru trwy systemau adrodd fel Researchfish.
- Datblygu offer mesur effaith ymchwil sy’n newydd ac yn arloesol.
- Arwain y gwaith o reoli ac adrodd ar bob Ysgoloriaeth PhD a Grantiau Arloesi a ariennir.
Broses ymgeisio:
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol wedi’i gyfeirio at Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil, yn amlinellu pam rydych chi eisiau’r swydd a sut rydych chi’n bodloni manyleb yr unigolyn yn y swydd-ddisgrifiad. Gwnewch gais trwy wefan Ymchwil Canser Cymru yn: https://www.cancerresearch.wales/cy/careers
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Mai 2026 (9am)
Cyfweliadau: 8 Mehefin 2026
Contact Detail:
Cancer Research Wales Recruiting Team