Swyddog Digwyddiadau in Cardiff

Swyddog Digwyddiadau in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
Cancer Research Wales Breast Group

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bod yn codi arian i ariannu ymchwil canser o’r radd flaenaf ers 60 mlynedd, gan ariannu mwy na £41m o ymchwil yn y cyfnod hwnnw. Ond mae angen i ni wneud gymaint yn fwy, ac fe allwn wneud hynny. Rydym eisiau i bawb yng Nghymru fod yn rhan o achub mwy o fywydau rhag canser trwy gyfrannu rhoddion, codi arian, ymweld â’n siopau, gwirfoddoli, a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Ymchwil Canser Cymru.

A oes gennych angerdd tuag at ddigwyddiadau?

Ydych chi am ein helpu i wneud gwahaniaeth i ymchwil sy’n helpu i ymestyn ac achub bywyd pobl rhag effaith dorcalonnus canser?

Dyma gyfle unigryw i ymuno â’n tîm Digwyddiadau Codi Arian llwyddianus, gan ein bod yn chwilio am rywun sy’n angerddol am redeg a digwyddiadau her.

Mae gan Ymchwil Canser Cymru gymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau rhedeg a her bob blwyddyn – gwelom dros 2000 o bobl yn codi arian fel hyn i’r elusen yn 2025! Cewch fanylion am ein portffolio blaenllaw yn y sector, o ddigwyddiadau rhedeg a her: https://www.cancerresearch.wales/cy/get-involved/our-events

Mae Swyddogion Digwyddiadau Ymchwil Canser Cymru yn gyfrifol am weithio gyda’n cymuned fawr o gefnogwyr sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol, sef cymuned sy’n tyfu. Yn ymhellach â rheoli digwyddiadau presennol i recriwtio cefnogwyr newydd a sicrhau eu bod yn cael profiad cadarnhaol, byddwch hefyd yn amlygu cyfleoedd newydd i ddatblygu digwyddiadau rhedeg a her eraill a allai gynyddu ymhellach ein cymuned o gefnogwyr.

Cyfrifoldebau allweddol

  • Byddwch yn arwain ar ddatblygu a chynyddu ein gwaith codi arian trwy ddigwyddiadau comedi, cerddoriaeth a digwyddiadau arbennig rhedeg, yn ogystal a datblygu ein sialensau nofio, seiclo, nenblymio a Zip.
  • Byddwch yn rheolwr prosiect ar ein digwyddiadau – gan gynnwys y cynllun recriwtio a’r cynllun marchnata, cynllunio taith y cefnogwr, a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflawni allanol i gynnig profiad cadarnhaol a chofiadwy.
  • Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth i wneud y mwyaf o berfformiad ac adenillion ar fuddsoddiad trwy’r portffolio presennol o weithgareddau – er enghraifft, defnyddio data i gael dealltwriaeth lawn o gymhellion, diddordebau ac anghenion ein cymuned digwyddiadau rhedeg a her.
  • Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Digwyddiadau i fesur hyd a lled y potensial am ddigwyddiadau pwrpasol newydd a/neu ddigwyddiadau trydydd parti newydd y gallem eu hychwanegu at ein portffolio.
  • Byddwch yn gweithio ar y cyd â thimau eraill, fel y timau cyfathrebu a marchnata, adwerthu a chyfathrebu, i gyflawni digwyddiadau yn effeithiol ac amlygu cyfleoedd ar y cyd.
  • Byddwch yn cefnogi’r elusen trwy ateb galwadau ffôn a negeseuon e-bost gan gefnogwyr, monitro blwch negeseuon e-bost yr Elusen, a diweddaru’r CRM.
  • Byddwch yn cefnogi ethos a gwerthoedd cyffredinol Ymchwil Canser Cymru, gan hyrwyddo cenhadaeth a gweithgareddau’r elusen bob amser.
  • Yn achlysurol, gallech ymgymryd â thasgau eraill sy’n gyson â natur a chwmpas y swydd hon.

Sgiliau a phrofiad hanfodol

  • Mae sgiliau rheoli prosiect cadarn yn hanfodol.
  • Profiad o ddatblygu a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith i gefnogi’r gwaith o gyflwyno a thyfu digwyddiadau codi arian.
  • Hanes profedig o gyrraedd targedau recriwtio i ddigwyddiadau, a rhagori ar y targedau hynny.
  • Hanes profedig o ddatblygu a gweithredu teithiau cyflawn cefnogwyr i ennyn sylw cymaint â phosibl o roddwyr a darparu gofal rhagorol i gwsmeriaid.
  • Deall sut i ddefnyddio platfformau codi arian digidol yn llwyddiannus.
  • Profiad o ddefnyddio data a gwybodaeth fel sylfaen i brosiectau ac i’w gwerthuso.
  • Profiad o weithio gyda phartneriaid digwyddiadau mawr.
  • Profiad o recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr.
  • Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol i reoli eich llwyth gwaith eich hun, gyda gweithgareddau lluosog, gosod blaenoriaethau a chyflawni targedau heriol.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a rhyngbersonol cadarn.
  • Byddwch yn meddu ar wybodaeth gyfredol am yr arfer gorau sy’n gysylltiedig â digwyddiadau codi arian, gan gynnwys gofynion y Rheoleiddiwr Codi Arian, yr HSE a gofynion yswiriant.
  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg.
  • Gwybodaeth ymarferol am systemau Rheoli’r Berthynas â Chleientiaid (CRM).

Mae’r swydd hon yn amodol ar archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a fydd yn cael ei gynnal gan Ymchwil Canser Cymru cyn dechrau cyflogaeth.

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi ymrwymo i cyfle cyfartal i bob aelod presennol o staff a darpar aelod o staff. Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn amgylchedd cynnes a chroesawgar i weithio a chroesawn geisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

Mae’n ofynnol bod holl weithwyr Ymchwil Canser Cymru yn cynnal cyfrinachedd rhanddeiliaid ac aelodau staff.

Chi sy’n gyfrifol am gyfyngu eich gweithredoedd i’r gweithredoedd hynny rydych chi’n teimlo’n gymwys i ymgymryd â nhw. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich cymhwysedd wrth gyflawni eich dyletswyddau, siaradwch a’ch rheolwr llinell ar unwaith.

DATGANIAD HYBLYGRWYDD
Mae cynnwys y Swydd-ddisgrifiad hwn yn cynrychioli amlinelliad o’r swydd yn unig ac, felly, nid yw’n gatalog manwl o ddyletswyddau a chyfrifoldebau. Felly, bwriedir i’r Swydd-ddisgrifiad fod yn hyblyg a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiwygio yn sgil amgylchiadau sy’n newid, yn dilyn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

Pan fydd y sefydliad proffesiynol priodol yn nodi gofyniad yn gysylltiedig â goruchwylio, cyfrifoldeb deiliad y swydd yw sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am fodolaeth gofyniad o’r fath, siaradwch â’ch Rheolwr.

Fel gweithiwr gydag Ymchwil Canser Cymru, rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am yr holl gofnodion rydych chi’n eu casglu, eu creu neu eu defnyddio fel rhan o’ch gwaith o fewn yr elusen, boed hynny ar bapur neu ar gyfrifiadur. Mae hyn yn gais o’r gyth? ...

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: Dydd Llun 16 Tachwedd (12 canol dydd)

£28,000 - £32,000 gros y flwyddyn (yn dibynnu ar brofiad)

#J-18808-Ljbffr

Cancer Research Wales Breast Group

Contact Details:

Cancer Research Wales Breast Group Recruitment Team