Swyddog Cadwraeth – Prosiect Cerrig Sarn Wrecsam (Welsh version) in Wrexham

Swyddog Cadwraeth – Prosiect Cerrig Sarn Wrecsam (Welsh version) in Wrexham

Wrexham Full-Time Remote
Buglife

Oriau: Rhan amser (0.8 Cyfwerth ag amser llawn / 30 awr, 4 diwrnod yr wythnos)
Math o Gytundeb: Cytundeb Cyfnod Penodol – 24 mis (Ionawr 2027 – Rhagfyr 2028)
Cyflog: £26,019.25 (£32,524.06 Cyfwerth ag amser llawn)
Lleoliad: Gweithio gartref yn Wrecsam neu’r ardal gyfagos, gyda theithio achlysurol i gyfarfodydd, digwyddiadau a lleoliadau eraill fel bo angen.

(Note: This job description is for the ’Conservation Officer – Wrexham Stepping Stones Project’ which is also available in English)

Am y Swydd

Rydym yn chwilio am gadwraethwr angerddol sy’n gwybod am infertebratau ac sydd â diddordeb cryf mewn adfer cynefinoedd i ymuno â’n tîm yng Nghymru fel Swyddog Cadwraeth ar brosiect Cerrig Sarn Wrecsam.

Gan weithio gyda phartneriaid prosiect yn cynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stori Brymbo, Grŵp Gweithredu Maes Y Pant a Coed Lleol, byddwch yn adfer, creu ac ailgysylltu Cynefin Brithwaith Agored ar draws Sir Wrecsam. Byddwch yn goruchwylio gwaith cynefin ymarferol fel rheoli glaswelltir a choetir, creu daear lom a rheoli prysgwydd, cynnal arolygon ecolegol, rheoli contractwyr a gwirfoddolwyr, ac ymgysylltu â chymunedau lleol trwy ddigwyddiadau, hyfforddiant a chofnodi rhywogaethau.

Mae hwn yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywogaethau â blaenoriaeth sy’n gysylltiedig â chynefinoedd tir llwyd fel y Gwibiwr Brith, y wenynen durio Colletes cunicularius, y wenynen fraith Stelis ornatula, yr heliwr corrod Arachnospila minutula a’r pryf lladd gwenyn Philanthus Triangulum, ac i helpu cymunedau lleol i ymgysylltu gydag a gwarchod y bywyd gwyllt ar riniog eu drws.

Y Buddiannau

  • 23 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau’r banc (pro rata).
  • Trefniadau gweithio hyblyg.
  • Pensiwn: hyd at 8% o bensiwn cyflogwr.
  • Yswiriant Bywyd: sicrwydd yswiriant bywyd o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth.
  • Dydd Mercher Llawn Lles: hanner diwrnod o absenoldeb gyda thâl ar ddydd Mercher olaf pob mis.
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr: apwyntiadau Meddyg Teulu a Ffisio ar-lein.
  • Diwylliant cefnogol ble rydym yn buddsoddi yn eich datblygiad.
  • Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i infertebratau ac adferiad natur.

Ein Cennad

Buglife yw’r unig elusen yn Ewrop sydd wedi ymroi i gadwraeth ein holl infertebratau. O wenyn i chwilod, copynnod naid i sglefrod môr – rydym yn gweithio i atal difodiant infertebratau a gwarchod y creaduriaid bychain sy’n cadw ecosystemau’n weithredol.

Rydym yn bodoli ers 2000, gyda staff ar hyd a lled y DU, ac rydym mewn cyfnod cyffrous yn ein datblygiad gyda strategaeth newydd i gynyddu ein heffaith. Bydd y rôl hon yn ein helpu i drosglwyddo’r uchelgais hon yng Nghymru, gan adfer cynefinoedd ar gyfer rhai o’n hinfertebratau prinnaf ac ysbrydoli cymunedau i helpu i’w amddiffyn.

Dyddiad cau: 1af Rhagfyr 2026
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 7fed Rhagfyr 2026

Image credit, used for social sharing: Scotland B-Line meadow (Claire Pumfrey – Buglife)

Swyddog Cadwraeth – Prosiect Cerrig Sarn Wrecsam (Welsh version) in Wrexham employer: Buglife

Joining the South Devon National Landscape as a Pollinator Plan Officer offers a unique opportunity to contribute to meaningful conservation efforts in one of the UK's most stunning coastal regions. With a strong focus on community engagement and empowerment, the organisation fosters a collaborative work culture that prioritises employee growth and well-being, ensuring that you can make a tangible impact while developing your skills in a supportive environment. Enjoy the benefits of working in a picturesque location, where your efforts will help restore vital ecosystems and enhance the health and happiness of local communities.

Buglife

Contact Details:

Buglife Recruitment Team