At a Glance
- Tasks: Influence key decision-makers to combat heart disease and promote health policies.
- Company: British Heart Foundation, dedicated to improving heart health in Wales.
- Benefits: Hybrid working, supportive environment, and opportunities for personal growth.
- Other info: Join a passionate team making a significant impact on lives across the UK.
- Why this job: Make a real difference in public health and advocate for heart disease priorities.
- Qualifications: Interest in policy, strong communication skills, and stakeholder engagement experience.
The predicted salary is between 30000 - 40000 £ per year.
Diben tîm Polisi a Materion Cyhoeddus BHF yw meithrin cefnogaeth ymhlith penderfynwyr allweddol fel y gallwn drechu clefyd y galon am byth. Rydym yn datblygu polisïau BHF, yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn dylanwadu arnynt er mwyn helpu i atal clefyd y galon cyn iddo ddechrau, achub bywydau a chefnogi pobl sy'n byw gyda chlefyd y galon i fyw bywydau hirach ac iachach.
Yn y swydd hon, byddwch yn hyrwyddo BHF wrth wleidyddion, gweision sifil, ymchwilwyr a'r gymuned glinigol yng Nghymru, gan helpu i sicrhau bod penderfynwyr allweddol yn barnu mai BHF yw'r arbenigwr ar iechyd y galon ac ymchwil yn y maes. Byddwch yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ar ein blaenoriaethau dylanwadu, gan wneud clefyd cardiofasgwlaidd yn flaenoriaeth yng Nghymru a sicrhau hefyd bod y sefyllfa yng Nghymru yn bleidiol i ragoriaeth ym maes ymchwil y galon.
Trefniadau gweithio: Mae hon yn swydd hybrid, lle bydd eich gwaith yn cael ei rannu rhwng eich cartref ac o leiaf un diwrnod yr wythnos, ar gyfartaledd, yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Gall hyn amrywio o bryd i'w gilydd, ac felly bydd angen i chi weithio mewn ffordd hyblyg i sicrhau eich gwaith gorau dros ein hachos.
Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o'r amgylchedd gwleidyddol yng Nghymru, a gwybodaeth am drefniadau a phrosesau llywodraeth ddatganoledig Cymru. Byddwch yn ymuno â BHF Cymru mewn cyfnod cyffrous i'r elusen ac i iechyd y galon yng Nghymru a byddwch yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith BHF a'i effaith ar fywydau pawb yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig.
Gwerthoedd a phrofiad: Er mwyn gwneud y gwaith yn llwyddiannus bydd gennych y sgiliau a'r profiad hyn:
- Diddordeb mewn gweithio ym maes polisi a/neu faterion cyhoeddus yng Nghymru
- Parodrwydd i ddysgu a defnyddio dulliau effeithiol o ymgysylltu â rhanddeiliaid gwleidyddol neu gynulleidfaoedd eraill ar lefel uchel, a dylanwadu arnynt
- Callu cyfathrebu'n glir ac yn gryno mewn amryw o fformatau ysgrifenedig ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
- Profiad o arwain eich tasgau’ch hunan i'w cyflwyno erbyn dyddiad penodol
Bydd gennych sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu a meithrin perthnasoedd, a byddwch yn gallu cydweithio ag eraill mewn gwahanol rannau o BHF, a meithrin perthnasoedd gwaith cryf â chysylltiadau allanol allweddol yng Nghymru.
Perthyn yn y gwaith: Rydym wedi ymrwymo i feithrin gweithle lle mae pawb yn teimlo'u bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Trwy gofleidio gwahanol safbwyntiau a chefndiroedd, gellir cryfhau ein sefydliad a'n grymuso ninnau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol gyda'n gilydd.
Policy and Public Affairs Officer in Cardiff employer: British Heart Foundation
As a Store Manager with us, you'll be part of a vibrant community-focused team dedicated to sustainability and making a real difference. We offer a supportive work culture with extensive benefits, including generous annual leave, enhanced family policies, and access to health resources, all while providing opportunities for personal and professional growth in a fast-paced retail environment. Join us to lead a diverse team and contribute to life-saving research while enjoying a rewarding career in fashion retail.