At a Glance
- Tasks: Support research projects in media impact, develop strategies, and manage social media channels.
- Company: Join a leading university project transforming literacy outcomes across Wales.
- Benefits: Flexible working options, competitive pay, and opportunities for professional growth.
- Other info: Dynamic team environment with a commitment to equality and diversity.
- Why this job: Make a real difference in children's literacy while gaining valuable experience.
- Qualifications: Degree in Psychology, Education, or Media; fluent Welsh essential.
The predicted salary is between 29700 - 36300 £ per year.
Swydd ran amser, dros dro (60% FTE) yw hon yn yr Adran Seicoleg. Mae'r dyletswyddau'n cynnwys gweithio fel swyddog cefnogi project ymchwil ym maes effaith a’r cyfryngau ar gyfer project CAL:ON Cymru. Bydd deiliad y swydd yn adrodd i Reolwr y Ganolfan ac i arweinydd y maes Effaith a Chyfathrebu.
Mae'r rôl yn cynnwys:
- Datblygu a gweithredu strategaethau’r cyfryngau
- Ysgrifennu a dosbarthu datganiadau i'r wasg a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- Rheoli ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol
- Ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau
- Datblygu ac ysgrifennu astudiaethau achos effaith
Dylai deiliad y swydd feddu ar addysg hyd at safon gradd (neu gyfwerth) a phrofiad o weithio ar brojectau o'r math hwn yn ogystal â’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd, sy’n hanfodol i’r swydd hon. Mae bod â sgiliau trefnu da a medru cadw at derfynau amser llym yn hanfodol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau cyn gynted a phosib. Swydd gyda chontract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2028 yw hon. Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol. Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd y swydd wedi ei lleoli ar y campws ym Mangor.
Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i dreulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
- Ymchwilio a pharatoi dyfyniadau, datganiadau, adroddiadau, briffiau, blogiau, llythyrau ac erthyglau i helpu i hyrwyddo negeseuon allweddol CAL:ON Cymru yn y cyfryngau.
- Datblygu llinellau cadarnhaol yn y cyfryngau am CAL:ON Cymru.
- Nodi, cyfweld a gofalu am astudiaethau achos addas i'w defnyddio gan y cyfryngau wrth gyhoeddi negeseuon allweddol.
- Nodi a helpu i drefnu digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer y cyfryngau gan sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyfleu'n glir.
- Cynghori cydweithwyr ynghylch sut i uchafu effaith CAL:ON drwy'r cyfryngau.
- Blaenoriaethu ymholiadau gan y cyfryngau ac ymdrin â nhw yn brydlon.
- Defnyddio systemau’r swyddfa a llwyfannau’r cyfryngau i sicrhau ymatebion prydlon a chywir ac i sicrhau y caiff datganiadau eu dosbarthu’n gyflym i’r cyfryngau.
- Meithrin a chynnal cysylltiadau â’r cyfryngau ar draws y cyfryngau darlledu, y cyfryngau digidol a’r cyfryngau print yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
- Drafftio strategaethau ar gyfer ymdrin â’r cyfryngau ac amserlenni ar gyfer straeon unigol.
- Monitro asiantaethau newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol am straeon newyddion brys er mwyn ymateb iddynt.
- Adrodd: llunio fersiynau drafft o ddiweddariadau cynnydd ar gyfer CAL:ON Cymru.
- Adrodd: Casglu data, cynhyrchu dangosfyrddau a monitro perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol.
- Cydlynu ar draws y tîm: gweithio gydag aelodau eraill o'r tîm – yn enwedig y rheolwr project, y swyddog ymchwil cyfathrebu, rheolwr y ganolfan a’r arweinwyr effaith yn y coleg ac yng ngwasanaethau proffesiynol y brifysgol.
- Nodi a chynhyrchu astudiaethau achos ac achosion effaith, gan gyflawni deilliannau ymchwil, a chyfrannu at y fframwaith rhagoriaeth ymchwil.
- Gweinyddu'r project ymchwil (os oes angen o bryd i’w gilydd), cymryd rhan weithredol yn rhai o weithgareddau penodol y Coleg / sefydlu grwpiau cydweithredol (mewnol neu allanol) / denu cyllid allanol / rheoli projectau.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau Eraill:
- Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn adolygiadau perfformiad a gweithgareddau datblygu.
- Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisïau cyfle cyfartal y brifysgol, y Polisi Urddas wrth Weithio ac Astudio a Pholisi Iaith y brifysgol a Safonau’r Gymraeg.
- Mae gan ddeiliad y swydd ddyletswydd gofal cyffredinol a chyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles.
- Rhaid iddo/iddi gymryd yr holl gamau sy’n rhesymol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac iach iddo/iddi ei hun ac aelodau staff eraill, myfyrwyr ac ymwelwyr y mae ei weithrediadau neu ei ddiffyg gweithredu yn effeithio arnynt.
- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio hefyd â’r holl bolisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg perthnasol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.
- Rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r polisïau a’r dulliau gweithredu cyfreithiol a chyllidol perthnasol.
Gofynion Personol:
- Cymwysterau/Hyfforddiant Hanfodol: Gradd israddedig (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Seicoleg, Addysg neu'r Cyfryngau.
- Dymunol: Cymhwyster cyfryngau.
- Profiad/Gwybodaeth Hanfodol: Profiad o weithio fel cynorthwyydd ymchwil mewn maes tebyg. Dangos diddordeb a gwybodaeth am feysydd penodol sy’n gysylltiedig â’r swydd. Profiad o ysgrifennu astudiaethau achos ac achosion effaith. Profiad o greu cynnwys ar gyfer sianeli’r cyfryngau.
- Sgiliau/Galluoedd Hanfodol: Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd yn hanfodol i’r swydd hon. Dangos sgiliau da ar lafar ac yn ysgrifenedig. Sgiliau cyfrifiadurol da, yn cynnwys MS Office, PowerPoint, Excel. Gallai hynny hefyd gynnwys gwybodaeth am feddalwedd penodol sy’n ymwneud a'r ymchwil a llwyfannau’r cyfryngau. Dangos gallu i flaenoriaethu'r llwyth gwaith a chwblhau gwaith o fewn terfynau amser. Dangos medrau dadansoddol da, y gallu i ddadansoddi data rhifol ac i gyflwyno canlyniadau yn y modd priodol. Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm.
- Arall Hanfodol: Mae’r swydd yn amodol ar gliriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Dymunol: Trwydded yrru.
Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn mai trwy ddenu, datblygu a dal gafael ar amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd y mae cyflawni hynny. Ymdrechwn i ddatblygu gweithlu o bob rhan o'r gymuned, beth bynnag eu rhyw, hunaniaeth rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol, statws perthynas, crefydd neu gred, dyletswyddau gofalu, neu oedran.
Swyddog Cefnogi Project Ymchwil (Effaith a'r Cyfryngau) (60% CALl) employer: Bangor University
Bangor University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that values diversity and inclusivity while providing ample opportunities for professional growth. Located in the picturesque surroundings of Bangor, employees enjoy a supportive environment with access to training and development, ensuring they can enhance their skills while contributing to the maintenance of the university's beautiful outdoor estate.