Swyddog yr Academi Sgrin
Company: Bangor University Salary: £31,236 to £37,694 a year, pro rata Hours: Part-time Location: Bangor, LL57 2TH Working pattern: On-site Job type: Temporary Posting date: 12 Nov 2026 Closing date: 30 Nov 2026 Apply for this job
Summary
Dyma wahodd ceisiadau am y swydd ran amser (14.5 awr), dros dro uchod yn gweithio yn Ysgol y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae hwn yn cyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Bangor i’n helpu i lunio darpariaeth unigryw a dwyieithog gyda’r Academi Sgrin yma yng ngogledd Cymru. Menter gydweithredol yw hon sydd â’r nod o hybu cyfleoedd rhanbarthol i bobl ifanc gael mynediad at gyfleoedd yn y gweithle mewn stiwdios cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Mae'r swydd yn gofyn am ddull pragmatic sy’n seiliedig ar werthoedd wrth weithio gyda diwydiant, Addysg Uwch, Addysg Bellach ac ysgolion.
Mae'r Academi Sgrin yn rhan o rwydwaith o Academïau Sgrin sydd wedi'u lleoli mewn prifysgolion a stiwdios ledled Cymru. Mae'r Academi yma yng ngogledd Cymru yn canolbwyntio'n benodol ar hyrwyddo sgiliau a chyfleoedd mewn cynhyrchu dwyieithog mewn cydweithrediad â Stiwdios Aria yn Llangefni (https://ariafilmstudios.com/?lang=cy). Mae'r Academi Sgrin hefyd yn rhan o gynllun ehangach Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI) sef 'Siop un Stop' dan arweinyddiaeth Sgil Cymru (www.siopunstop-onestopshop.cymru).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg hyd at lefel cymhwyster Safon Uwch mewn maes (meysydd) pwnc priodol neu bydd ganddynt brofiad proffesiynol cyfatebol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am hyrwyddo’r Academi Sgrin fel adnodd a rennir, gan ddarparu cefnogaeth barhaus i gyrsiau Ffilm a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor a chyrsiau partneriaid addysgol eraill gan gynnwys Colegau Addysg Bellach a Chynghrair Sgrin Cymru (www.screenalliancewales.com) wrth iddynt geisio mynediad at y cyfleusterau newydd hyn ac ymgysylltu â nhw.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth dda o faes cynhyrchu ffilm a theledu a phrofiad o reoli projectau a chyllidebau. Mae bod â sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Gwnaed y swydd hon yn bosibl gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Sefydliad Ffilmiau Prydain (BFI).
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i'r swydd hon.
Mae’r swydd hon yn amodol ar wiriad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Lleolir y swydd ar y campws ym Mangor. Trwy ein fframwaith Gweithio Deinamig, bydd dewis hefyd i treulio peth amser yn gweithio o bell (er yn aros yn y Deyrnas Unedig) i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith. Caiff hynny ei drafod gyda’r ymgeiswyr yn y cyfweliad.
Derbynnir ceisiadau ar-lein yn unig, trwy ein gwefan recriwtio, jobs.bangor.ac.uk.
Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 30 Tachwedd, 2026.
Wedi Ymrwymo i Gyfle Cyfartal.
Swyddog yr Academi Sgrin in Bangor employer: Bangor University
Bangor University is an exceptional employer, offering a vibrant work culture that values diversity and inclusivity while providing ample opportunities for professional growth. Located in the picturesque surroundings of Bangor, employees enjoy a supportive environment with access to training and development, ensuring they can enhance their skills while contributing to the maintenance of the university's beautiful outdoor estate.