At a Glance
- Tasks: Support staff at Ysgol y Gogarth in learning Welsh and building confidence.
- Company: Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin at Bangor University, promoting Welsh language education.
- Benefits: Flexible hours, supportive environment, and opportunities for professional development.
- Why this job: Make a real difference by helping others learn Welsh in an inclusive setting.
- Qualifications: Experience in teaching or mentoring, excellent communication skills in Welsh and English.
- Other info: Join a diverse team committed to equality and promoting the Welsh language.
The predicted salary is between 1200 - 1680 £ per month.
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO) ym Mhrifysgol Bangor yn un o 10 darparwr sy’n darparu cyrsiau dysgu Cymraeg ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ers 1 Awst 2016, mae wedi bod yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion ar draws siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy. Mae DCGO yn gyfrifol am ddarpariaeth ar gyfer tua 2200 o ddysgwyr unigol ar hyd a lled y tair sir, ac yn gweithredu ar gyllideb o tua £2.1M. Mae’r tîm dysgu’n cynnwys 29 o staff amser llawn neu ffracsiynol, a thua 40 o diwtoriaid rhan amser.
Cefnogi staff Ysgol y Gogarth (ysgol ADY) i ddysgu Cymraeg ac i fagu hyder yn y Gymraeg a’u galluogi i fod yn hyderus i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Cefnogi’r ysgol i gynllunio a mapio cynnydd sgiliau iaith y staff ar draws yr ystod lefelau Dysgu Cymraeg, a hynny dros gyfnod amser penodol.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau
- Asesu lefelau iaith cychwynnol staff (os oes angen) a thracio eu cynnydd ieithyddol.
- Darparu gwersi Dysgu Cymraeg priodol ac addas ar gyfer unigolion, grwpiau bach a dosbarthiadau yn unol â’r galw.
- Darparu rôl mentor iaith, drwy ddarparu cyngor i athrawon a staff ar eu defnydd o’r Gymraeg wrth eu gwaith.
- Dod i gytundeb gyda’r ysgol ar amserlen resymol sy’n caniatáu staff i ymrwymo i wersi.
Disgwylir i ddeiliad y swydd gwblhau Cymhwyster Dechrau Dysgu: Tystysgrif Lefel 4 CBAC i diwtoriaid (os nad ydynt eisoes wedi’i gwblhau).
Bydd yr ysgol/Awdurdod lleol yn:
- Darparu pwynt cyswllt o’r Uwch Dim Rheoli ar gyfer y tiwtor.
- Sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r cynnig a’r gefnogaeth.
- Sicrhau bod staff yn cael eu rhyddhau i fynychu gwersi, yn unol â’r amserlen gytunwyd arni.
- Darparu gofod addas i’r tiwtor gyflawni ei g/waith.
Cyfrifoldebau a Dyletswyddau Eraill
Disgwylir i ddeiliad y swydd gymryd rhan mewn adolygiadau perfformiad a gweithgareddau datblygu. Disgwylir i ddeiliad y swydd gydymffurfio â pholisi cyfle cyfartal, polisi Urddas yn y Gwaith ac wrth Astudio a Polisi Iaith y Brifysgol a Safonau Iaith. Mae gan ddeiliad y swydd ddyletswydd gofal cyffredinol a chyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles, a rhaid iddynt gymryd yr holl gamau sy’n rhesymol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel ac iach iddynt eu hunain ac aelodau staff eraill, myfyrwyr ac ymwelwyr y mae eu gweithrediadau neu eu diffyg gweithredu yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gydymffurfio â holl bolisïau iechyd a diogelwch, dulliau gweithredu ac asesiadau risg perthnasol. Mae’n rhaid i ddeiliad y swydd gydymffurfio â’r polisïau a’r dulliau gweithredu cyfreithiol a chyllidol perthnasol, a bod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau o ran gofynion cyfreithiol ei swydd.
Gofynion
- Addysgwr rhagorol gyda phrofiad dysgu eang.
- Profiad o gynghori a chefnogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn Gymraeg a Saesneg.
- Sgiliau rhyngbersonol arbennig a’r gallu i gydweithio’n effeithiol â phobl eraill ac fel rhan o dîm.
- Y gallu i weithio’n drefnus gan flaengynllunio a gweithio i derfynau amser.
- Sgiliau TG rhagorol ar gyfer dysgu a gweinyddu.
- Y gallu i weithio’n annibynnol yn ôl yr angen.
- Brwdfrydedd am y Gymraeg.
- Ymagwedd ragweithiol tuag at gefnogi siaradwyr newydd.
- Cymhwyster Dechrau Dysgu: Tystysgrif Lefel 4 CBAC i diwtoriaid Cymraeg neu brofiad cyfatebol.
- Profiad o weithio mewn ysgol fel athro/athrawes.
- Profiad o addysgu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar bob lefel.
- Profiad o ddysgu Cymraeg i staff mewn gweithleoedd.
- Profiad o gydweithio’n strategol gyda gweithleoedd ar hyfforddiant iaith i staff.
- Profiad o gefnogi dysgwyr.
- Trwydded yrru a’r gallu i deithio i leoliadau dysgu o fewn pellter rhesymol i’ch cartref.
Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir cyflawni hyn trwy ddenu, datblygu a chadw amrywiaeth eang o staff o nifer o wahanol gefndiroedd. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu gweithle o bob rhan o'r gymuned waeth beth fo'u rhyw, hunaniaeth rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oedran. Rydym yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg trwy ein Polisi Iaith Gymraeg blaengar. Rydym yn cydymffurfio â Safonau'r Iaith Gymraeg ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Saesneg neu Gymraeg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn aelod o siarter Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau Athena SWAN Advance HE ac rydym wedi derbyn gwobr Arian i gydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol a'r cynnydd o wnawn o fewn polisïau, arferion a diwylliant y brifysgol. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr hyderus o ran anabledd.
Mae’n ddyletswydd ar holl aelodau’r staff i sicrhau bod eu gweithredoedd yn cydymffurfio ag amcanion amgylcheddol cyffredinol y brifysgol a'u bod yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Cynigir pob swydd yn amodol ar dystiolaeth o gymhwyster i weithio yn y Deyrnas Unedig, a derbyn tystlythyrau boddhaol. Mae gennym gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod gennych yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn y gallwch ddechrau gweithio i ni. Wrth wneud cais am y swydd hon bydd gofyn i chi egluro ar ba sail y credwch y byddwch yn gallu byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithiol ar ddyddiad dechrau’r swydd os bydd eich cais yn llwyddiannus. Os nad oes gennych yr hawl i weithio’n rhydd mewn unrhyw swydd yn y Deyrnas Unedig eisoes, bydd unrhyw gynnig cyflogaeth y byddwn yn ei wneud i chi yn amodol arnoch chi’n cael fisa hawl i weithio.
Mae'r ddolen ganlynol yn darparu gwybodaeth am y gwahanol lwybrau fisa i gyflogaeth a'r gofynion cymhwysedd (gan gynnwys newid statws fisa lle caniateir hynny) https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/work-visas.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus byddwn yn trafod opsiynau fisa gyda chi ar adeg gwneud y cynnig o gyflogaeth. Sylwer, os derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ar gofrestr adleoli’r brifysgol ac sydd â sgiliau sy’n cyfateb yn weddol i ofynion y swydd, y caiff yr ymgeiswyr hynny eu hystyried yn gyntaf.
Mae’r swydd hon yn amodol ar gwiriad manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gan fod Prifysgol Bangor yn ateb y gofynion o ran cwestiynau eithriadig yn unol â Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974, bydd yr holl ymgeiswyr sy’n cael cynnig swydd yn cael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn y cadarnheir y penodiad. Bydd hyn yn cynnwys manylion am rybuddion, ceryddon neu rybuddion terfynol, yn ogystal ag euogfarnau. Caiff gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eu diweddaru bob 3 blynedd. Dylai ymgeiswyr nodi bod y Brifysgol yn defnyddio corff ymbarél allanol i brosesu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. O'r herwydd, dylech fod yn ymwybodol, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich enw a manylion eich e-bost yn cael eu rhannu gyda'r corff ymbarél er mwyn iddynt gysylltu â chi i ddechrau'r broses ymgeisio.
Education Workforce Tutor - Ysgol y Gogarth (50% FTE) in Bangor employer: Bangor University
Contact Detail:
Bangor University Recruiting Team
StudySmarter Expert Advice 🤫
We think this is how you could land Education Workforce Tutor - Ysgol y Gogarth (50% FTE) in Bangor
✨Tip Number 1
Network like a pro! Reach out to current or former employees at Ysgol y Gogarth and ask about their experiences. This can give you insider info and might even lead to a referral.
✨Tip Number 2
Prepare for the interview by practising common questions related to teaching Welsh. We recommend role-playing with a friend to boost your confidence and refine your answers.
✨Tip Number 3
Show your passion for the Welsh language! During your interview, share personal stories or experiences that highlight your enthusiasm and commitment to teaching.
✨Tip Number 4
Don’t forget to follow up after your interview! A quick thank-you email can leave a lasting impression and shows your genuine interest in the position.
We think you need these skills to ace Education Workforce Tutor - Ysgol y Gogarth (50% FTE) in Bangor
Some tips for your application 🫡
Tailor Your Application: Make sure to customise your application to highlight how your skills and experiences align with the role of Education Workforce Tutor. We want to see how you can support staff at Ysgol y Gogarth in learning Welsh!
Show Your Passion for Welsh: Let your enthusiasm for the Welsh language shine through! Share any relevant experiences or projects that demonstrate your commitment to promoting and teaching Welsh, as this is key for us.
Be Clear and Concise: When writing your application, keep it straightforward and to the point. We appreciate clarity, so make sure your qualifications and experiences are easy to understand and directly related to the job.
Apply Through Our Website: Don’t forget to submit your application through our website! It’s the best way for us to receive your details and ensures you’re considered for the role. We can’t wait to hear from you!
How to prepare for a job interview at Bangor University
✨Know Your Stuff
Make sure you’re familiar with the role of an Education Workforce Tutor and the specific needs of Ysgol y Gogarth. Brush up on your Welsh language skills and be ready to discuss how you can support staff in their learning journey.
✨Show Your Passion
Let your enthusiasm for teaching and the Welsh language shine through. Share personal experiences that highlight your commitment to education and how you’ve helped others gain confidence in their language skills.
✨Prepare for Practical Scenarios
Think about how you would assess language levels or plan lessons for different groups. Be ready to discuss specific strategies you’d use to track progress and adapt your teaching methods to meet diverse learner needs.
✨Ask Thoughtful Questions
Prepare some questions that show you’re genuinely interested in the role and the school. Inquire about their current language initiatives or how they measure success in language learning, which will demonstrate your proactive approach.