Planning / Research Assistant in Penrhyndeudraeth

Planning / Research Assistant in Penrhyndeudraeth

Penrhyndeudraeth Full-Time On-site
A

Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn diogelu harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan ymestyn dros 823 milltir sgwâr, mae'r Parc yn gartref i'r mynydd uchaf yng Nghymru, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, a dros 26,000 o bobl.

Rydym bellach yn chwilio am Gynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil i ymuno â ni ar sail amser llawn, parhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos.

Mae sgiliau yn yr iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Darllenwch y disgrifiad swydd i weld y lefel union sydd ei hangen.

  • Cyflog o £30,023 - £33,119 y flwyddyn
  • Y posibilrwydd o weithio mewn ffordd hybrid
  • Cynllun pensiwn
  • Ap Lles 360 (360 Wellbeing App), sy'n cynnwys mynediad at feddyg teulu, cymorth iechyd meddwl, ac adnoddau ffitrwydd
  • Gostyngiadau a rhaglenni cymorth ariannol
  • Cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Fel Cynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil, byddwch yn cefnogi polisi cynllunio a'i weithrediad ledled Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn benodol, byddwch yn darparu gwaith ymchwir, dadansoddi data a chymorth technegol i helpu i lunio a gweithredu polisïau cynllunio, gan gefnogi paratoi, gweithredu a monitro Cynllun Datblygu Lleol Eryri. Byddwch yn ymchwilio i ddata economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ac yn ei ddadansoddi er mwyn llywio penderfyniadau cynllunio.

Byddwch hefyd yn cynorthwyo gyda gwaith GIS a chartograffeg, gan helpu i gynnal gwybodaeth ddaearyddol gywir a chefnogi datblygiad polisïau cynllunio.

  • Casglu a dadansoddi data Cyfrifiad ac ystadegau perthnasol eraill
  • Cefnogi asesiadau polisi ac Adroddiad ar Gyflwr y Parc
  • Cynorthwyo gyda LANDMAP ac adnoddau eraill sy'n seiliedig ar GIS
  • Casglu gwybodaeth a pharatoi adroddiadau monitro tai
  • Prosesu ymholiadau chwilio tir lleol a llunio crynodebau o hanes cynllunio
  • Paratoi ystadegau cynllunio a data perfformiad ar gyfer Llywodraeth Cymru

Fel rhan o’r swydd, bydd cyfle os dymunir i’r person ddatblygu ei sgiliau a’i brofiad drwy gofrestru ar gwrs addysg uwch sy’n berthnasol i gynllunio.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y swydd Cynorthwyydd Cynllunio / Ymchwil, bydd angen y canlynol arnoch:

  • Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg
  • Y gallu i gynnal ymchwil wreiddiol a dadansoddi data
  • Dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar Barciau Cenedlaethol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a chyflwyno da
  • Hyfedredd yn Microsoft Outlook, Word, Excel ac Access
  • Gradd mewn cynllunio, daearyddiaeth neu bwnc perthnasol arall
  • Trwydded yrru lawn a dilys

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 10 Tachwedd 2026.

Gall sefydliadau eraill gyfeirio at y swydd hon fel Cynorthwyydd Cynllunio, Swyddog Cymorth Cynllunio i Raddedigion, Cynorthwyydd Polisi Cynllunio, Swyddog Ymchwil Cynllunio, neu Gynorthwyydd Cynllunio Datblygu.

#J-18808-Ljbffr

A

Contact Details:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri // Eryri National Park Authority Recruitment Team