Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri / Integrated Natural Resource Scheme (INRS) Advisor in Penrhyndeudraeth

Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri / Integrated Natural Resource Scheme (INRS) Advisor in Penrhyndeudraeth

Penrhyndeudraeth Full-Time No working from home possible
A

Cynghorydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS)

Swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth (gyda dewisiadau gwaith hybrid)

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn amddiffyn harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan gwmpasu 823 milltir sgwâr, mae'r Parc yn gartref i'r mynydd uchaf yng Nghymru, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, a dros 26,000 o bobl.

Mae ein Cynlluniau Adnoddau Naturiol Integredig yn anelu at reoli, gwella a diogelu ein Tirweddau Dynodedig, yn ogystal â chymunedau ffermio a’r economi leol. Mae ‘Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri’ a ‘Y Goeden Iawn yn y Lle Iawn’ yn prosiectau newydd i gefnogi’r gwaith hwn; mae ‘Y Goeden Iawn yn y Lle Iawn’ yn canolbwyntio ar wella rheolaeth coetiroedd ar draws y Parc Cenedlaethol, tra bod ‘Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri’ yn gweithio gyda ffermwyr i gyflwyno mwy o ddulliau ffermio adfywiol.

Rydym bellach yn chwilio am Gynghorydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS) i ymuno â ni ar sail amser llawn – gan weithio 37 awr yr wythnos – ar congident cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2029.

Sylwch fod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Darllenwch y disgrifiad swydd i weld y lefel union sydd ei hangen.

  • Cyflog o £32,061 - £36,363 y flwyddyn
  • Y potensial ar gyfer gweithio hybrid
  • Cynllun pensiwn
  • Ap Llesiant 360, gan gynnwys mynediad at Feddyg Teulu, cymorth iechyd meddwl, ac adnoddau ffitrwydd
  • Gostyngiadau a rhaglenni cymorth ariannol
  • Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol

Fel Cynghorydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS), byddwch yn cefnogi cyflawniad prosiect Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri ac yn canolbwyntio ar helpu ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio adfywiol.

Yn benodol, byddwch yn cydlynu ymgysylltiad prosiectau a ffermwyr, gan eu helpu i ddod o hyd i'r cyllid cywir, cynorthwyo gyda cheisiadau a monitro'r cyflawniad. Gan weithio gydag ymgynghorwyr arbenigol i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni’n llwyddiannus, chi fydd y cyswllt allweddol ar gyfer y prosiect a'r prif bwynt cyswllt.

Yn ogystal, byddwch yn cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu cynlluniau rheoli a throsglwyddo ar gyfer ffermio adfywiol. Gan weithio'n agos gyda Thirweddau Cymru, arbenigwyr Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru, byddwch yn helpu i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â gofynion y rhaglen.

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd Cynghorydd Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (INRS), bydd angen y canlynol arnoch:

  • Sgiliau yn y Gymraeg
  • Profiaid o weithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir i gyflawni amcanion cadwraeth, gan gynnwys trwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol
  • Profiaid ymarferol o gadwraeth, gan gynnwys darparu cyngor ar reoli tir a chynnal asesiadau cynefin
  • Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys Microsoft Excel a Word
  • Cymhwyster lefel gradd mewn pwnc sy'n ymwneud â'r amgylchedd, ecoleg, amaethyddiaeth neu reoli tir; cymhwyster mewn disgyblaeth amaethyddol neu un sy'n ymwneud â thir; neu brofiad sylweddol sy'n berthnasol yn uniongyrchol
  • Trwydded yrru lawn a'r gallu i deithio yn ôl yr angen

Sylwch, bydd y rôl hon yn golygu gweithio mewn ardaloedd anghysbell ac ar dir garw.

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 17 Awst 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Gynghorydd Amaethyddol, Cynghorydd Fferm, Cynghorydd Cefn Gwlad, Cynghorydd Cadwraeth, Cynghorydd Rheoli Tir, Cynghorydd Amgylchedd, Cynghorydd Datblygu Gwledig, Cynghorydd Amaeth-amgylchedd, neu Swyddog Ymgysylltu â Ffermwyr.

#J-18808-Ljbffr

Ffermio Adfywiol Tirweddau Eryri / Integrated Natural Resource Scheme (INRS) Advisor in Penrhyndeudraeth employer: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri // Eryri National Park Authority

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri is an exceptional employer, offering a flexible hybrid working environment that promotes a healthy work-life balance. Employees benefit from a comprehensive pension scheme and the unique opportunity to contribute to the preservation of a stunning natural landscape while developing their skills in GIS and planning compliance. With a strong commitment to employee well-being and professional growth, this role is perfect for those passionate about the environment and looking for meaningful work.

A

Contact Details:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri // Eryri National Park Authority Recruitment Team