Math o swydd wag - Parhaol / Llawn Amser
Dyddiad Cau: 02 Tachwedd 2026
Mae Amgueddfa Cymru yn awyddus i benodi Pennaeth Sŵoleg newydd i arwain tîm curadurol profiadol sy'n cynhal?
Byddwch yn arwain tîm o guraduron ac ymchwilwyr, yn ennill nawdd gan gyrff fel UKRI a'r Gymdeithas Frenhinol ac yn sicrhau bod ein casgliadau sŵoleg yn parhau i fod yn berthnasol ac yn hygyrch. Fel Arweinydd Project ar projectau ymchwil effaith-uchel, byddwch yn hyrwyddo cydweithredu rhyngddisgyblaethol ar draws y gwyddorau, y celfyddydau a'r dyniaethau, gan gefnogi ein gweledigaeth Strategaeth 2030 yn uniongyrchol.
Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys datblygu'r casgliadau, rheoli cyllidebau ymchwil, cyhoeddi allbynnau academaidd a meithrin partneriaethau â sefydliadau addysg uwch. Byddwch yn dirprwyo ar ran y Pennaeth Adran yn ôl yr angen, yn mentora staff ac yn hyrwyddo arferion cynhwysol sy'n adlewyrchu ein cynulleidfaoedd amrywiol.
Rydym yn awyddus i benodi sŵolegydd cymwys â gradd Doethuriaeth (neu gyfwerth) sydd â phrofiad o reoli casgliadau amgueddfeydd, arwain tîm ac ymgeisio'n llwyddiannus am grantiau.
Ymunwch â ni i sicrhau bod gwybodaeth wyddonol yn sail i ymgysylltu â chynulleidfaoedd am heriau amgylcheddol, a hyrwyddo safle Cymru fel arweinydd ym maes ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth.
#J-18808-Ljbffr
Head of Zoology in Cardiff employer: Amgueddfa Cymru – Museum Wales
As a Partner in Human Resources for Projects at Amgueddfa Cymru, you will join a dynamic and inclusive work culture that values professional growth and collaboration. With a focus on impactful projects and a commitment to employee development, the organisation offers unique opportunities to engage with senior stakeholders and contribute to meaningful change within the community. Located in the vibrant setting of Cardiff, employees benefit from a supportive environment that encourages innovation and strategic thinking.
Contact Details:
Amgueddfa Cymru – Museum Wales Recruitment Team