Arweinydd Brand ac Ymgyrchoedd in Cardiff

Arweinydd Brand ac Ymgyrchoedd in Cardiff

Cardiff Full-Time On-site
A

Gwall: Mae dyddiad cau y swydd hon wedi bod

Math o swydd wag Parhaol/Llawn Amser Categori Marchnata a Chyfathrebu (Gwasanaethau Cefnogol) Ystod cyflog Gradd F £44793.83- £47360 Oriau 35 oriau Gofyniad lefel iaith Gymraeg Dymunol Crynodeb o'r Swydd

Bydd yr Arweinydd Brand ac Ymgyrchoedd yn datblygu ac yn cyflawni ymgyrchoedd creadigol ac effeithiol sy'n ymhelaethu ar frand a gwaith Amgueddfa Cymru wrth wireddu ei phwrpas.

Gan helgu i gyflawni'r fframwaith marchnata, byddwch yn gyfrifol am gyflawni, gweithredu ac olrhain gweithgarwch marchnata ar lefel y brand. Byddwch chi hefyd yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni cynlluniau ac ymgyrchoedd marchnata at ystod eang o weithgareddau Amgueddfa Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cydlyniant strategol gweithgarwch brand, marchnata a chyfathrebu ar draws Amgueddfa Cymru. Byddwch yn cydweithio â'n timau data mewnol i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu llywio a'u mesur gan ddirnadaeth o’r cynulleidfaoedd.

Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel model rôl i sbarduno diwylliant cynhwysol, cydweithredol, uchel ei berfformiad, gan sicrhau bod ein gwerthoedd a'n safonau ymddygiad disgwyliedig yn cael eu hymgorffori ar draws yr adran, a'r sefydliad ehangach.

Bydd deiliad y swydd yn cydweithio'n agos ar draws pob tîm i greu ymgyrchoedd creadigol gyda chasgliadau, dysgu a mwynhad wrth wraidd y chwedleua. Mae'r rôl yn gorwedd o fewn y tîm Marchnata a Chyfathrebu sy'n gyfrifol am ddatblygu a chyflawni ymgyrchoedd strategol sy'n adrodd straeon nerthol i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd amrywiol, cynyddu cyfleoedd ariannu i’r eithaf ac adeiladu enw da Amgueddfa Cymru.

Chi fydd yn perchnogi ac yn datblygu’r rhaglen ymgyrchu flynyddol, gan gysoni pob rhan o'r twndis marchnata o’r brand i’r ymgyrchoedd codi arian, gan anelu at sicrhau gwerth uchel i’r cwsmeriaid gydol eu oes. Byddwch yn gyfrifol am gyflawni gwaith marchnata eithriadol ar draws ystod eang o sianeli marchnata, gyda ffocws penodol ar y cyfryngau digidol.

Bydd gennych arbenigedd cydnabyddedig mewn dyfeisio a gweithredu strategaethau marchnata a chyfathrebu integredig ar gyfer set amrywiol o randdeiliaid. A chithau’n awdur copi medrus, bydd gennych y profiad a'r sgiliau i greu copi ysbrydoledig, nerthol a dylanwadol sy'n ymgorffori tôn llais ein brand, yn mynegi negeseuon allweddol a'n cynnig gwerth unigryw er mwyn cysylltu â phobl a’u hysbrydoli i ymwneud ag Amgueddfa Cymru, cymryd rhan ynddi a’i chefnogi.

Gan weithredu fel rheolwr llinell i’r Cydlynydd Cynlluniau Marchnata, byddwch yn goruchwylio'r gwaith o greu a churadu cynnwys nerthol i gryfhau presenoldeb digidol Amgueddfa Cymru er mwyn cynyddu’r ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd. Byddwch yn sbarduno gwaith i roi ymgyrchoedd digidol ar waith ar draws sianeli ar-lein fel y cyfryngau cymdeithasol, ebost a llwyfannau ar y we, gan adeiladu cymuned ar-lein fywiog trwy strategaethau ymgysylltu effeithiol. Gyda llygad craff ar gyfer dadansoddi ac optimeiddio data, byddwch yn asesu ac yn gwella’n strategaeth a'n hymgyrchoedd digidol.

Bydd gan y rôl hon annibyniaeth weithredol o ddydd i ddydd, gan roi adroddiadau clir a chyson i'r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu. Disgwylir ichi weithredu fel cynghorydd arbenigol i dimau ledled yr amgueddfa ar hybu eu rhaglenni, codi arian, manwerthu, llogi lleoliadau a dysgu.

Dyddiad Cau: 24Awst am 5yp

Dyddiad Cyfweld: Yr wythnos yn cychwyn 8 Medi 2025

Proffil swydd Manyleb y person

Dyddiad Cau Sunday, August 24, 2025

#J-18808-Ljbffr

Arweinydd Brand ac Ymgyrchoedd in Cardiff employer: Amgueddfa Cymru – Museum Wales

As a Partner in Human Resources for Projects at Amgueddfa Cymru, you will join a dynamic and inclusive work culture that values professional growth and collaboration. With a focus on impactful projects and a commitment to employee development, the organisation offers unique opportunities to engage with senior stakeholders and contribute to meaningful change within the community. Located in the vibrant setting of Cardiff, employees benefit from a supportive environment that encourages innovation and strategic thinking.

A

Contact Details:

Amgueddfa Cymru – Museum Wales Recruitment Team