Swyddog Cymorth Adnoddau Dynol (Powys) in Rottingdean

Swyddog Cymorth Adnoddau Dynol (Powys) in Rottingdean

Rottingdean Full-Time No working from home possible
A

Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?

Dyddiad Cyfweliad

Disgrifiad Hysbysiad Swydd

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Swyddog Adnoddau Dynol yn Gwasanaethau Pobl, yn cefnogi rheolwyr rhanbarthol Powys i reoli staff yn effeithiol a sicrhau bod materion sy’n ymwneud â phobl yn cael eu trin yn unol â pholisïau’r heddlu ac arferion gorau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Bod yn gyfrifol am ddatblygu a diweddaru systemau rheoli dogfennau’r adran Adnoddau Dynol, gan sicrhau y gall cydweithwyr gael mynediad at wybodaeth fel y bo’n briodol.

Rhoi cymorth i reolwyr llinell sy’n ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â phobl, gan gynnwys presenoldeb a pherfformiad, camymddwyn (staff yr heddlu), tegwch yn y gwaith, newid o fewn y sefydliad, recriwtio a dethol.

Cefnogi’r Grŵp Rheoli Adnoddau, gan sicrhau bod data sy’n ymwneud â’r sefydliad a’r gweithlu’n adlewyrchu newidiadau lleol yn gywir.

Fel un o bedwar swyddog Adnoddau Dynol rhanbarthol, byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr a thimoedd sy’n gwasanaethu eu cymunedau bob dydd ac sydd ag effaith gwirioneddol a pharhaol. Gan gefnogi rhanbarth ymroddedig o swyddogion a staff yr heddlu, byddwch chi wrth galon amgylchedd prysur sy’n canolbwyntio ar bobl lle mae’r gwaith yn heriol, amrywiol, ac yn wirioneddol ystyrlon.

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

Beth allwch chi ddisgwyl?

Bydd gan bob dechreuwr newydd cyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno

24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus

24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)

Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle

Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)

Gostyngiadau gan sawl adwerthwr dri’r Cynllun Golay Glas

Cynllun Beicio i’r Gwaith

Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi

Cynllun pensiwn

Rhwydweithiau Cymorth Staff

Cyfleoedd gweithio hyblyg

Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.

#J-18808-Ljbffr

Swyddog Cymorth Adnoddau Dynol (Powys) in Rottingdean employer: Allscreens Nationwide Ltd

Allscreens Nationwide Ltd is an exceptional employer, offering a supportive and inclusive work culture that prioritises the wellbeing of both employees and the individuals they serve. With a strong focus on professional development, team leaders are encouraged to grow their skills in a dynamic environment while making a meaningful impact in the lives of adults with learning disabilities. Located in Leicester, the company provides a unique opportunity to be part of a dedicated team committed to delivering high-quality, person-centred care.

A

Contact Details:

Allscreens Nationwide Ltd Recruitment Team