Mae gennym gyfle gwych ar gyfer tiwtoriaid gymwysedig a medrus i gyflwyno cyrsiau
Cyflogadwyedd i ddysgwyr yn Ystradgynlais, Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot. Byddwch yn cynllunio, datblygu, cyflwyno, gwerthuso ac asesu cyrsiau a rhaglenni dysgu yn unol ag anghenion dysgwyr a Gweithdrefnau Ansawdd Addysg Oedolion Cymru, er mwyn cefnogi cyflwyno dysgu o ansawdd uchel.
Mae rôl Tiwtor yn rôl amrywiol, ymarferol lle byddwch yn gweithio’n annibynnol yn ogystal â gyda thîm y rhanbarth.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
Cynllunio a pharatoi cyrsiau - paratoi cynlluniau gwersi a chynlluniau gwaith. Dewis deunyddiau dysgu ac ystod o ddulliau dysgu i ddiwallu anghenion y dysgwr.
Cefnogi dysgwyr - Asesu profiadau dysgu blaenorol a chyflawniadau dysgwyr, rhoi cyngor ac arweiniad priodol iddynt, a sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o’u llwybrau dilyniant.
Cyffredinol - ymgymryd â thasgau gweinyddol yn unol â rheoliadau ar gyfer cyllido Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales. Mynychu cyfarfodydd tiwtor perthnasol, briffiau ansawdd a chyfarfodydd achredu / safoni perthnasol.
Os oes gennych y sgiliau cywir, ac eisiau gweithio mewn maes hynod werth chweil lle mae eich gweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ledled Cymru, yna byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.
Cynhelir cyfweliadau Dydd Llun 16eg Tachwedd. Os na allwch fynychu ar y dyddiad hwn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.
Fel rhan o'r broses gyfweld gofynnir i chi gyflwyno sesiwn meicroaddysgu 15 munud, a darparu cynllun gwers, cynllun gwaith, ac unrhyw adnoddau ar gyfer y sesiwn hon.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg.
Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.
#J-18808-Ljbffr
Read more in Swansea employer: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
At Adult Learning Wales, we pride ourselves on being an exceptional employer that champions personal and professional growth within a vibrant and inclusive work culture. Our commitment to equality and diversity ensures that every team member feels valued and empowered, while our generous benefits package and focus on lifelong learning create a fulfilling environment for all employees. Join us in making a meaningful impact in the community as we transform lives through education in a supportive and dynamic setting.
Contact Details:
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales Recruitment Team