Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau
Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.
Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.
Y Rôl: Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol
Mae gan Addysg Oedolion Cymru gyfle gwych i unigolyn weithio mewn rôl amrywiol fel Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol o fewn tim rhanbarth Y Gogledd ag i ymuno â sefydliad Cymru gyfan sydd wedi ymrwymo i wasanaethu poblogaeth oedolion Cymru gyda chyfleoedd ysbrydoledig sy'n newid bywydau.
Mae rôl Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol yn rôl amrywiol ac allweddol o fewn y sefydliad, byddwch yn cefnogi ac ategu gwaith y tîm cyflenwi trwy ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys cofrestru cyrsiau ar y Systemau Gwybodaeth Reoli (MIS), casglu a chyflwyno ffioedd dosbarthiadau, monitro arian traul, prosesu hawliadau tiwtoriaid am dâl, a chofnodi holl fanylion a gofynion cymorth dysgwyr.
Mae hon yn rôl ymarferol lle byddwch chi'n gweithredu'n gyflym, yn annibynnol a gyda chefnogaeth gan dîm sefydledig.
Byddwch yn gyfrifol am (ond nid yn gyflawn):
- Paratoi a dosbarthu pecynnau tiwtoriaid, gan gynnwys llyfrau gwaith asesu a gwybodaeth, fel y bo’n briodol i’r ddarpariaeth a gyflenwir.
- Cwblhau tasgau prosesu data, gan gynnwys defnyddio cronfeydd data MIS y sefydliad i gofnodi manylion cyrsiau, prosesu cofrestriadau a gwerthusiadau dysgwyr, prosesu gofynion cymorth a/neu geisiadau dysgwyr, a gwybodaeth arall fel y bo’r angen.
- Prosesu a monitro’r holl hawliadau am dâl gan diwtoriaid gan ddefnyddio’r gronfa ddata MIS ar gyfer tiwtoriaid.
- Ymateb i ymholiadau cyffredin gan ddysgwyr, aelodau, rhanddeiliaid, y cyhoedd, a staff mewnol.
- Gweithio fel rhan o’r tîm cyflenwi i hyrwyddo’r rhaglen gyflenwi, gan gynnwys unrhyw brosiectau, a allai gynnwys cynhyrchu posteri, anfon deunydd hyrwyddo a chyflwyno data ar amrywiaeth eang o gyfryngau cymdeithasol.
Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.
Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal.
Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.
Rydym yn hapus i drafod unrhyw addasiadau rhesymol gallai fod eu hangen ar unigolion yn ystod y broses recriwtio, ar gychwyn y swydd, neu unwaith y byddant yn y swydd.
#J-18808-Ljbffr
Gweinyddwr Cymorth Rhanbarthol in Bangor employer: Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales
At Adult Learning Wales, we pride ourselves on being an exceptional employer that champions personal and professional growth within a vibrant and inclusive work culture. Our commitment to equality and diversity ensures that every team member feels valued and empowered, while our generous benefits package and focus on lifelong learning create a fulfilling environment for all employees. Join us in making a meaningful impact in the community as we transform lives through education in a supportive and dynamic setting.
Contact Details:
Addysg Oedolion Cymru I Adult Learning Wales Recruitment Team