Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Bro Teifi
Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Bro Teifi

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Bro Teifi

Full-Time 20000 - 28000 £ / year (est.) No home office possible
Go Premium
C

Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2 (Sgiliau Bywyd)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i ymuno â thîm cynhwysiant yr ysgol er mwyn cefnogi ein darpariaeth Sgiliau Bywyd i ddisgyblion Oed Uwchradd. O dan arweiniad y Cydlynydd Sgiliau Bywyd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynllunio a darparu profiadau cyfoethog i ddisgyblion er mwyn eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol ac i fanteisio ar brofiadau bywyd go iawn ar gyfer dysgu. Croesewir ceisiadau felly wrth ymgeiswyr sydd yn gallu dod a sgiliau a gwybodaeth amrywiol i mewn i’r rôl hon.

Manylion y swydd:

  • Cynllunio a darparu cyfleoedd i ddisgyblion oed uwchradd i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig drwy brofiadau cyfoethog, bywyd go-iawn o fewn y darpariaeth Sgiliau Bywyd.
  • Targedu ymyraethau i ddysgwyr penodol er mwyn sicrhau cynnydd priodol yn eu medrau.
  • Gyda mewnbwn athrawon ac arbenigwyr, cynllunio a darparu ymyraethau penodol ar lefel 1:1 ac o fewn grwpiau bach.
  • Goruchwylio a chefnogi disgyblion gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at ddysgu.

Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.

Mae Clwb yr Enfys yn gwneud defnydd o ystafelloedd pwrpasol o fewn ardal oed cynradd yr ysgol sydd yn cynnwys ystafell ddosbarth, gofod allanol ac ystafell aml-synhwyraidd.

Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.

Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:

“…staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio’n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O’r dysgu sylfaen i’r chweched dosbarth, mae’r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, ‘Oni heuir, ni fedir’, yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig.”

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr.

“Mae’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau. Mae’r ddarpariaeth ychwanegol a geir yn y canolfannau ‘Hafan’,‘Clwb Cwtsh’ a ‘Chlwb yr Enfys’ yn cyfrannu’n werthfawr iawn at y gofal a’r gynhaliaeth i ddisgyblion sydd eu hangen.

Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon neu i gael taith o amgylch yr ysgol cyn cyflwyno cais, cysylltwch â’r Cydlynydd ADY, Mrs Cei Pryderi ar 01559 362503 neu drwy e-bost,PryderiC7@broteifi.ceredigion.sch.uk .

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

#J-18808-Ljbffr

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Bro Teifi employer: Cyngor Sir Ceredigion County Council

Ysgol Bro Teifi is an exceptional employer, dedicated to fostering a supportive and inclusive work environment for its staff. With a strong emphasis on professional development, employees are encouraged to grow their skills while contributing to the rich educational experiences of students. Located in Ceredigion, the school boasts state-of-the-art facilities and a collaborative culture that prioritises the well-being and success of both students and staff alike.
C

Contact Detail:

Cyngor Sir Ceredigion County Council Recruiting Team

Teaching Assistant Level 2 – Ysgol Bro Teifi
Cyngor Sir Ceredigion County Council
Go Premium

Land your dream job quicker with Premium

You’re marked as a top applicant with our partner companies
Individual CV and cover letter feedback including tailoring to specific job roles
Be among the first applications for new jobs with our AI application
1:1 support and career advice from our career coaches
Go Premium

Money-back if you don't land a job in 6-months

C
Similar positions in other companies
UK’s top job board for Gen Z
discover-jobs-cta
Discover now
>