Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Teifi yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel 3 (Arweinydd Clwb yr Enfys) i ymuno ag Adran Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion oed-cynradd gan sicrhau cynnydd grwpiau ac unigolion.
Manylion y swydd:
- Cynllunio a darparu cyfleoedd i ddisgyblion ADY cynradd i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig drwy brofiadau cyfoethog, bywyd go-iawn o fewn y darpariaeth Clwb yr Enfys.
- Targedu ymyraethau i ddysgwyr penodol er mwyn sicrhau cynnydd priodol yn eu medrau.
- Gyda mewnbwn athrawon ac arbenigwyr, cynllunio, amserlenni a darparu ymyraethau penodol ar lefel 1:1 ac o fewn grwpiau bach.
- Arwain tîm bach o staff o fewn darpariaeth Clwb yr Enfys.
- Cydweithio gyda thîm cynhwysiant ac athrawon yr ysgol i ddiwallu anghenion dysgwyr.
- Cefnogi anghenion personol disgyblion yn unol â chanllawiau gofal personol yr ysgol.
- Ymgymryd â hyfforddiant perthnasol i’r rôl.
Agorwyd yr ysgol ym Medi 2016, yn dilyn buddsoddiad o £30m gan Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru. Bro Teifi ydy’r ysgol pob-oed, cyfrwng Cymraeg cyntaf yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf ar gyfer yr holl ddisgyblion, o’r lleiaf i’r hynaf.
Mae Clwb yr Enfys yn gwneud defnydd o ystafelloedd pwrpasol o fewn ardal oed cynradd yr ysgol sydd yn cynnwys ystafell ddosbarth, gofod allanol ac ystafell aml-synhwyraidd.
Ers iddi agor mae nifer y disgyblion wedi cynyddu’n sylweddol ac ar hyn o bryd, mae oddeutu 850 o ddisgyblion yn yr ysgol gan gynnwys tua 85 yn y chweched dosbarth.
Arolygwyd yr ysgol gan Estyn yn Nhachwedd 2024 ac adroddwyd bod:
“…staff a disgyblion Ysgol Bro Teifi yn cydweithio’n agos i greu awyrgylch deuluol a chynnal ethos cynhwysol a gofalgar. Mae staff yn adnabod eu disgyblion yn dda iawn ac yn sicrhau bod popeth sydd eu hangen arnynt o ran gofal a chefnogaeth ar gael yn ddi-rwystr. O’r dysgu sylfaen i’r chweched dosbarth, mae’r disgyblion yn gwireddu arwyddair yr ysgol, ‘Oni heuir, ni fedir’, yn llwyddiannus, gan fanteisio ar y cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion cyfrifol, parchus a charedig.”
“Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda yn eu gwersi ac o gwmpas yr ysgol. Maent yn dangos parch at ei gilydd ac at staff ac maent yn annwyl a chroesawgar gydag ymwelwyr.”
“Mae’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gryfder. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion ADY yn gwneud cynnydd cryf yn erbyn eu targedau. Mae’r ddarpariaeth ychwanegol a geir yn y canolfannau ‘Hafan’,‘Clwb Cwtsh’ a ‘Chlwb yr Enfys’ yn cyfrannu’n werthfawr iawn at y gofal a’r gynhaliaeth i ddisgyblion sydd eu hangen.”
Os am drafodaeth anffurfiol ynglwn â’r swydd hon neu i gael taith o amgylch yr ysgol cyn cyflwyno cais, cysylltwch â’r Cydlynydd ADY, Mrs Cei Pryderi ar 01559 362503 neu drwy e-bost,PryderiC7@broteifi.ceredigion.sch.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr
Contact Detail:
Cyngor Sir Ceredigion County Council Recruiting Team