Swyddog Ansawdd y Coleg (Tîm Ansawdd a Safonau)
Mae’r tîm Llywodraethu Addysg yn awyddus i recriwtio Swyddog Ansawdd y Coleg a fydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol y Brifysgol. Bydd y rôl yn darparu arweiniad a chanllawiau proffesiynol o ansawdd uchel ar bob agwedd ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau ansawdd a safonau, gan hwyluso dealltwriaeth ehangach o\’u pwysigrwydd cyd-destunol, yn ogystal â rheoli gweithgareddau ansawdd a safonau o safbwynt gweithredol.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc) (pro-rata ar gyfer staff rhan amser), cynllun pensiwn, trefniadau gweithio cyfunol (sy\’n golygu y byddwch yn gallu gweithio gartref am beth o\’ch amser), cynllun beicio i\’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau bob blwyddyn o ran y raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo, lle byddwch yn wynebu llawer o heriau gwahanol. Mae hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw.
Mae hon yn swydd llawn amser (35 awr yr wythnos), cyfnod penodol tan 5 Hydref 2025 gan ddarparu sicrwydd absenoldeb mamolaeth.
Cyflog: £40,497 – £45,413 y flwyddyn (Gradd 6).
I gael rhagor o wybodaeth am gydbwyso bywyd a gwaith, buddion ariannol, datblygiad a lles, a rhai o’r cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd ar gael i staff Prifysgol Caerdydd, ewch i Yr hyn y gallwn ei gynnig – Swyddi – Prifysgol Caerdydd
Dyddiad cau: 11 Mai 2025
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gellir gwneud hynny drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o wahanol gefndiroedd. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned beth bynnag fo’u rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth draws, statws perthynas, crefydd neu gred, cyfrifoldebau gofalu, neu oed. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a\’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio\’n hyblyg.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Prif Ddyletswyddau
- Gweithredu, sefydlu a hwyluso dealltwriaeth gyd-destunol o reoliadau academaidd, polisïau, gweithdrefnau a systemau ar gyfer sicrhau ansawdd a safonau dyfarniadau\’r Brifysgol mewn Ysgolion.
- Rhoi cyngor, arweiniad a chyfeiriad arbenigol a chyd-destunol ar reoliadau, polisïau a gweithdrefnau sicrhau ansawdd, gan gynnwys diweddariadau rheolaidd ar newidiadau trwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol.
- Gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion i gefnogi ystod eang o brosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys cymeradwyo a chynnal rhaglenni ac ailddilysu yn unol â disgwyliadau\’r sefydliad.
- Bod yn gyfrwng cyfathrebu effeithiol rhwng Ysgolion, Colegau a staff y Gwasanaethau Proffesiynol eraill mewn materion sy’n ymwneud â’r dirwedd gyd-destunol y mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu ynddi a sut mae adborth yn cefnogi’r gwaith o wella polisïau a phrosesau ansawdd a safonau yn barhaus.
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli’n weithredol gweithgareddau sicrhau ansawdd fel y cadarnhawyd gan y Pennaeth Ansawdd a Safonau Academaidd.
- Gweithio gyda\’r Pennaeth Llywodraethu Addysg a\’r Pennaeth Ansawdd a Safonau Academaidd i werthuso a datblygu ymhellach drefniadau llywodraethu addysg ar lefel yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol.
- Bod yn Ysgrifennydd i bwyllgorau, Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a/neu is-bwyllgorau mewn meysydd cymwys, gan gynghori aelodau ar strategaethau, polisïau a gweithdrefnau, cynnal gwaith ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau yn ôl yr angen.
- Mynd i gyfarfodydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg a chyfarfodydd eraill y Coleg er mwyn cynnig cyngor ac arweiniad arbenigol ar gymhwyso rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd priodol.
Dyletswyddau Cyffredinol
- Ymwneud â datblygiad personol a phroffesiynol parhaus gan gynnwys ymgysylltu\’n weithredol â grwpiau priodol yn y sector i sicrhau bod y Brifysgol yn mabwysiadu arfer gorau a\’i bod yn gwybod am arferion a datblygiadau perthnasol ar draws y sector.
- Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth gyflawni pob dyletswydd.
- Dilyn polisïau’r Brifysgol ar iechyd a diogelwch a chydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond a fydd yn cyd-fynd â gofynion y swydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae\’n debygol y bydd Swyddog Ansawdd y Coleg yn gweithio\’n helaeth gyda Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd gan gysylltu ag arweinwyr addysg a\’u cynghori ar draws deg Ysgol amrywiol.
YR HYN Y BYDD EI ANGEN ARNOCH ER MWYN YMGYMRYD Â’R SWYDD HON (MANYLEB Y PERSON)
Fel arfer mae sgiliau, cymwysterau neu brofiadau penodol y dylai unrhyw weithiwr feddu arnyn nhw cyn y gellir eu hystyried ar gyfer swydd. Bydd rhai o\’r rhain yn hanfodol ac ni fyddech yn gallu cyflawni\’r rôl hebddynt, ond mae rhai yn ddymunol.
Polisi’r Brifysgol yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai’r ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni POB UN o’r meini prawf hanfodol yn ogystal â\’r meini prawf dymunol, pan fo\’n berthnasol. Yn rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir ichi roi\’r dystiolaeth hon mewn datganiad ategol. Dylech wneud eich gorau i ddangos yn glir sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol drwy roi enghreifftiau o sut, pryd a ble y bu ichi gyflawni’r camau angenrheidiol o’r blaen. Gallwch gyfeirio at elfennau o unrhyw agwedd ar eich bywyd, megis addysg, gwaith, bywyd y cartref neu\’r gymuned, cyn belled â\’ch bod yn canolbwyntio ar eu perthnasedd i anghenion y swydd hon. Gofalwch fod y dystiolaeth yr ydych yn ei rhoi’n cyfateb i rifau’r meini prawf a amlinellwyd isod. Caiff eich cais ei ystyried ar sail yr wybodaeth a rowch yn unol â phob elfen.
I ddechrau eich Datganiad Ategol, copïwch yr adran nesaf mewn dogfen ar wahân a’i gludo, gan ysgrifennu eich atebion a’r enghreifftiau sy’n cyfateb i bob pwynt. Cadwch y ddogfen gyda’r teitl EICH ENW – RHIF BR – TEITL Y SWYDD a’i rhoi ynghlwm â’ch cais ar y system recriwtio.
Meini Prawf Hanfodol
- Gradd/cymhwyster NVQ 4 neu brofiad cyfatebol/aelodaeth o sefydliad proffesiynol priodol
Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad
- Gwybodaeth arbenigol am sicrhau a gwella ansawdd ym maes addysg uwch a gafwyd mewn rôl gysylltiedig
- Y gallu i arloesi a/neu ddatblygu polisi sefydliadol o ran ansawdd a safonau yn unol â blaenoriaethau\’r Sefydliad
- Y gallu i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau wrth weithio ar draws ffiniau sefydliadol mewn sefydliad cymhleth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth helaeth o bolisi cyfredol a\’r hinsawdd ym maes addysg uwch yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; ynghyd â dealltwriaeth o\’r problemau o ran rheoleiddio a\’r heriau cyfredol sy\’n berthnasol i addysg uwch
Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio yn rhan o Dîm
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda\’r gallu i gyfleu gwybodaeth gysyniadol fanwl a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol gydag ystod eang o bobl ar draws ffiniau sefydliadol
- Gallu profedig i ddatblygu rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at ddatblygiadau hirdymor a bod yn gyfranogwr gweithgar, cefnogol ac anogol mewn tîm
Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau
- Tystiolaeth o allu datrys problemau eang trwy ddefnyddio menter a chreadigrwydd, gan nodi a chynnig atebion ymarferol ac arloesol
- Tystiolaeth o allu rhagorol i drefnu er mwyn blaenoriaethu a rheoli eich llwyth gwaith eich hun.
Meini Prawf Dymunol
- Cymhwyster Ôl-raddedig/Proffesiynol
- Profiad llwyddiannus o reoli contractau gyda phartneriaid/cleientiaid allweddol
- Rhugl yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
#J-18808-Ljbffr
Contact Detail:
Cardiff University / Prifysgol Caerdydd Recruiting Team